Llun: PA
Rhaid i ysgolion uwchradd sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael mynediad at wybodaeth “ddiduedd a chyfredol” ynglŷn ag opsiynau addysg a gyrfa, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r corff arolygu ysgolion, Estyn, yn cydnabod yn eu hadroddiad bod bron pob ysgol yng Nghymru yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i ddisgyblion am y llwybrau sydd ar gael iddynt ar ôl TGAU.

Er hynny, mae’r corff yn nodi bod y mwyafrif o ysgolion heb “ymateb yn effeithiol” i newidiadau yn y ffordd mae Gyrfa Cymru yn cefnogi’r opsiynau sydd ar gael i bobol wedi TGAU.

O ganlyniad i hyn, mae gallu disgyblion i gael cyngor ac arweiniad diduedd, a chymorth personol, yn “amrywio’n ormodol” yn ôl Estyn.

Mae’r corff hefyd yn nodi bod ysgolion yn rhoi gormod o bwyslais ar hyrwyddo’u chweched dosbarth eu hunain yn hytrach na’r opsiynau sydd ar gael mewn sefydliadau addysg eraill.

Sicrhau “cymorth llawn”

“Mae adroddiad heddiw yn amlygu nad yw pob disgybl yn cael yr un lefel o gymorth i’w helpu i wneud penderfyniadau pwysig am eu haddysg a’u gyrfa yn y dyfodol,” meddai’r Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands.

“Mae angen i bob ysgol sicrhau bod eu holl ddisgyblion yn cael cymorth llawn wrth wneud y penderfyniadau hyn.  Dylai’r ystod lawn o opsiynau ôl-16 gael eu cynnig iddynt, dylent gael cynnig profiad gwaith perthnasol a dylent gael cyfweliad i drafod eu gyrfa.”

Er yr holl argymhellion mae Estyn yn cydnabod bod yr amser mae ysgolion yn neilltuo ar gyfer trafod opsiynau gyrfaoedd wedi cynyddu.