Canlyniadau arholiadau (Llun PA)
Mae angen bwrw ymlaen ar unwaith gyda chynlluniau i gael un cymhwyster Cymraeg ar gyfer disgyblion o bob lefel.

Dyna alwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ôl i nifer y disgyblion ysgol sy’n cymryd Lefel A Cymraeg syrthio unwaith eto.

Mae’r cwymp yn “destun pryder” ac mae angen gweithredu “ar frys”, meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Heledd Gwyndaf.

Y ffigurau

Roedd y canlyniadau Lefel A ddoe yn dangos bod y nifer yn sefyll arholiad Cymraeg wedi cwympo o 609 i 565 – hynny ar ben cwymp o gyfanswm o fwy na 900 bum mlynedd yn ôl.

Yn ôl y Gymdeithas, roedd y gostyngiad eleni yn 7% a hynny ar ben gostyngiad o 10% y flwyddyn gynt.

Yr ateb, medden nhw, yw bwrw ymlaen gyda’r bwriad i greu un cymhwyster Cymraeg, gan ddiddymu’r syniad o ‘Gymraeg ail iaith’.

Meddai’r Gymdeithas

“Mae’r ffigyrau pryderus hyn, sy’n rhan o batrwm, yn tanlinellu gwendid strategaeth iaith y Llywodraeth, sydd heb gynllunio ar gyfer twf digonol yn addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Er gwaetha’ ymrwymiad, rydyn ni’n dal i aros cynllun pendant gan y Llywodraeth a Chymwysterau Cymru ar gyfer diddymu Cymraeg ail iaith a sefydlu un cymhwyster i bob disgybl yn ei le.

“Dylai’r Gymraeg fod yn iaith i bawb, nid i’r rhai ffodus yn unig. Mae’r ffigyrau heddiw hefyd yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod pob ysgol yn darparu rhywfaint o addysg cyfrwng Cymraeg i’w disgyblion fel bod addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.”