Cynghorydd Mair Rowlands
Roedd panel Golwg ar Grwydr yn gytun neithiwr bod yna le i bryderu am addysg Gymraeg yn ninas Bangor.

Roedd dwy o ferched y panel yn y Glôb – y Dr Catrin Elis Williams a’r Cynghorydd Mair Rowlands – yn codi cwestiynau ynglyn â’r ffaith bod ysgol gynradd Gymraeg y Garnedd yn llawn, a’i bod yn y gorffennol wedi cynnig addysg i blant yr oedd eu rhieni yn eu cario nhw yno o rannau eraill o Wynedd ac Ynys Môn.

Ac mae’r ddarpariaeth Gymraeg i ddisgyblion oed uwchradd hefyd yn destun pryder.

“Mae rhai rhieni’n dewis talu am addysg breifat i’w plant er mwyn osgoi y Gymraeg yn gyfan gwbwl,” meddai’r Dr Catrin Elis Williams, sy’n feddyg teulu ym Mangor Uchaf.

“Mae rhieni yn dewis Ysgol y Garnedd oherwydd ei bod hi’n ysgol dda, ond mae yna amrywiaeth barn pan mae’n dod i oed uwchradd. Mae rhai’n anfon eu plant i Ysgol David Hughes, Porthaethwy; eraill yn anfon eu plant i Ysgol Friars yn hytrach nag i Ysgol (Gymraeg) Tryfan…”

Mae’r Cynghorydd Mair Rowlands yn un o lywodraethwyr Ysgol Friars, ac mae’n cyfaddef bod y lle wedi Seisnigo ers sefydlu Ysgol Tryfan, a bod yna agwedd wrth-Gymraeg wedi bod.

“Mae yna newid agwedd,” meddai, “ac mae’n bwysig bod yna ffrwd Gymraeg yn Friars. Mae’n bwysig hefyd bod plant sydd ddim yn dod o deuluoedd Cymraeg yn cael cyfle i fod mewn ffrwd Gymraeg… ac mae’r ysgol hefyd yn rhan o Siarter Iaith Gwynedd.”

Yn ôl Gwilym Owen, dydi Siarter Iaith Gwynedd “ddim werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno”.

Mae’n bosib gwylio’r sesiwn drafod yn gyfan yn fan hyn.