Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi datgan bod nifer y swyddi sydd yn y fantol wedi gostwng ond bod “nifer sylweddol o hyd” mewn perygl.

Yn wreiddiol roedd 170 o bobol yn wynebu colli eu swyddi trwy ddiswyddiadau gorfodol ond o ganlyniad i gamau gan gynnwys “cynllun diswyddiadau gwirfoddol” mae’r nifer wedi lleihau.

Er hynny mae 115 o bobol o hyd yn wynebu colli eu swyddi fel rhan o gynllun y brifysgol i fynd i’r afael â “heriau ariannol sylweddol” trwy  arbed £8.5 miliwn.

Mae’r brifysgol eisoes wedi dechrau cyfnod o ymgynghori ffurfiol gydag undebau llafur a staff fydd yn para tan Fedi 1.

“Sylweddol o hyd”

“Er bod nifer y swyddi sydd yn y fantol wedi gostwng, mae’n nifer sylweddol o hyd,” meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes.

“Byddwn yn parhau i geisio dod o hyd i ffyrdd o leihau ymhellach ar yr angen am ddiswyddiadau gorfodol.”