(Llun: Cyfrif Twitter Llywodraeth Cymru)
Fe fydd plant ysgol yn cwblhau eu profion darllen a rhifedd cenedlaethol yng Nghymru ar-lein o fis Medi’r flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw y bydd yn cael gwared ar asesiadau papur ar gyfer y profion a chyflwyno asesiadau ar-lein “arloesol” yn eu lle.

Ar hyn o bryd mae disgyblion rhwng blwyddyn dau a blwyddyn naw yn sefyll eu profion ar bapur.  Ond dywed Kirsty Williams  mai’r bwriad yw dysgu mwy am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion er mwyn gweld beth yn union y mae angen i bob plentyn ganolbwyntio arno er mwyn gwella.

Bydd y profion papur yn cael eu disodli gan asesiadau personol newydd a fydd yn cael eu cynnal ar-lein ac wedi’u cynllunio’n benodol i’w defnyddio yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd yr asesiadau newydd yn addasu’n awtomatig lefel y cwestiynau i gyd-fynd â’r unigolyn a fydd yn sefyll y prawf er mwyn cynnig “her briodol i bob dysgwr” a hefyd yn lleihau amser marcio a gweinyddu.

“Codi safonau”

 

Dywedodd Kirsty Williams: “Diben y profion hyn yw codi safonau drwy ddangos y camau nesaf mae angen i ddysgwyr eu cymryd wrth ddysgu.

“Bydd symud tuag at asesiadau personol ar-lein ar gyfer darllen a rhifedd o fudd i ddisgyblion, rhieni ac athrawon fel ei gilydd.

“Bydd y disgyblion yn gwneud asesiadau a fydd yn addasu i’w hanghenion a’u sgiliau. Byddant hefyd yn elwa ar y marcio awtomatig a bydd ysgolion yn derbyn adborth yn gynt nag o’r blaen ac yn cael gwell darlun o’r hyn y gallant ei wneud i helpu eu dysgwyr i symud ymlaen.

“Mae’r dull hwn wedi’i deilwra i Gymru. Mae’n dangos sut rydyn ni’n buddsoddi yn ein hysgolion i fwrw ymlaen â’n cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg er mwyn gwella safonau a sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i wireddu ei botensial.”

Bydd y profion newydd yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd newydd 2018/19.

“Dim byd newydd”

“Dydy hyn ddim yn unrhyw beth newydd,” meddai Swyddog Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT), Rex Phillips.

“Rydym wedi galw ers peth amser, bod y profion yn cael eu cynnal ar-lein ac yn cael eu marcio ar-lein. Felly rydym ni yn falch bod Kirsty Williams wedi mynd ar hyd y trywydd penodol yma oherwydd mi wneith hyn leihau llwyth gwaith athrawon.”

“Cysyniad diffygiol”

Mae Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yng Nghymru (NUT Cymru) am weld y profion yn cael eu diddymu yn llwyr ond yn derbyn bod cynnal y profion arlein yn welliant.

“Mae NUT Cymru o hyd o’r farn bod profi safonedig yn gysyniad diffygiol sydd ddim yn cyd-fynd ag ethos y sustem addysg bresennol yng Nghymru ac yn bendant ddim yn cyd-fynd ag egwyddorion cwricwlwm a gafodd ei gyflwyno gan yr Athro Donaldson,” meddai Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans.

“Hoffwn fod wedi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet bod y profion yma yn cael eu diddymu. Er hynny mae’n ddigon teg i ddweud gall y newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno, gael effaith bositif ar sut mae profion yn cael eu cynnal yn bresennol.”

“Pryderon”

Ond dywedodd Julian Jones o undeb athrawon NAHT Cymru ar y Post Cyntaf y bore ma bod ganddo bryderon am y profion ac nad oedd ymgynghori wedi bod o flaen llaw.

“Dyma’r cyntaf dw i wedi ei glywed. Dylai’r drafodaeth hyn fod wedi digwydd fisoedd yn ol – mae’n rhy hwyr i drafod erbyn hyn.

Ychwanegodd: “Allwn ni ddim dweud sut maen nhw’n mynd i weithio nes eu bod nhw’n dechrau.”