Cyngor Gwynedd
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod heddiw i drafod dyfodol Campws Dysgu’r Bala fyddai’n uno tair ysgol ar gampws Ysgol y Berwyn o dan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet yn argymell “tynnu’r cynnig yn ôl” o sefydlu’r campws dysgu ar gyfer disgyblion 3-19 er mwyn cynnal ymgynghoriad pellach.

Mae’r adroddiad yn argymell oedi’r penderfyniad er mwyn rhoi amser i ystyried y farn gyfreithiol ynglŷn â safiad diweddaraf yr Esgobaeth, yn ogystal â rhoi cyfle i swyddogion drafod y mater yn lleol gyda Llywodraethwyr y dalgylch.

‘Cymunedol’

Mae ymgyrch wedi bod yn lleol hefyd i sefydlu’r ysgol fel un gymunedol yn hytrach nag eglwysig gyda 364 wedi arwyddo deiseb.

Mae’r ddeiseb yn galw; “yn dilyn yr anghydfod diweddar rhwng Cyngor Gwynedd ac Esgobaeth Llanelwy ynglŷn â rhai agweddau cyfreithiol ar ffurf y trefniant i greu ysgol gydol oes Eglwysig yn Y Bala… Galwn ar Gyngor Gwynedd i ddiddymu’r Bartneriaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru ac i ail-hyrwyddo’r prosiect fel un ‘cymunedol’, lle na fydd gan yr ysgol newydd unrhyw gysylltiad statudol gydag enwad crefyddol penodol.”

Mae’r prosiect yn golygu uno Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ac mae’r gwaith ar y safle wedi dechrau ym mis Gorffennaf 2016 gyda’r bwriad gwreiddiol o agor y campws newydd ym mis Medi 2018.