Bydd dros 40 o ddisgyblion yn derbyn  £3,000 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio rhan o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod yr ysgoloriaethau yw cynnal a chynyddu’r niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion ledled Cymru.

Mae gofyn i’r disgyblion astudio o leiaf 66% o’u cwrs trwy’r Gymraeg mewn pynciau fel Daearyddiaeth, Drama, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith.

Mwy o gyrsiau Cymraeg ar gael

Meddai’r Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Roeddem yn falch o weld cynifer yn cyflwyno cais ar gyfer ein Prif Ysgoloriaethau heb anghofio gweld cynnydd yn nifer y cyrsiau y mae modd eu hastudio’n helaeth trwy’r Gymraeg eleni.

Cafodd Kayleigh Jones ei dewis i dderbyn ysgoloriaeth i astudio Mathemateg a Chymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd: ‘‘Roeddwn i mor hapus o glywed mod i wedi ennill y Brif Ysgoloriaeth! Rwyf wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith ac mae’n bwysig i fi barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael Coleg Gŵyr,” meddai.

“Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio hyfforddi fel athrawes a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Dewisais Brifysgol Abertawe gan fod y staff mor groesawgar a’r brifysgol mor agos at y traeth.”