Huw Edwards yn Ysgol Gymraeg Llundain
Sara-Ellen Scalise sydd yn sôn am ymweliad arbennig gan Huw Edwards i Ysgol Gymraeg Llundain – a llwyddiant mawr i un o’u disgyblion

Cafodd Ysgol Gymraeg Llundain ymwelydd arbennig iawn ddydd Gwener ddiwethaf – y newyddiadurwr a’r darlledwr Huw Edwards, fu yn yr ysgol i recordio pennod o’i gyfres newydd, Creu Cymru Fodern gyda Huw Edwards.

Mae’r gyfres, sy’n cael ei darlledu ar S4C, yn trafod hanes Cymru, ei chymunedau a’r effeithiau arni o fod y genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd.

Drwy gydol hanes mae nifer o gymunedau, gan gynnwys y Cymry, wedi ymgartrefu yn Llundain.  Recordiwyd y bennod mewn amryw o leoliadau yn ymwneud â Chymry Llundain gan gynnwys yr ysgol, gan sôn am sut mae’r gymuned, y diwylliant a’r iaith wedi parhau i ffynnu yn y brifddinas.

“Mae’n hyfryd gweld yr ysgol yn cael ei chydnabod fel rhan hanfodol o hanes Cymry Llundain,” meddai Pennaeth yr Ysgol Gymraeg  Julie Sullivan.

“Sefydlwyd yr ysgol yn Brent 60 mlynedd yn ôl a hon yw’r unig ysgol y tu allan i Gymru yn y DU i ddarparu addysg llawn amser drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rydw i’n sicr y gallaf siarad ar ran yr holl dîm addysgu yma drwy ddweud ei bod yn fraint dod i’r gwaith bob dydd gan wybod ein bod yn chwarae rhan fechan ym mharhad yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.”

Telynwraig ddisglair yn taro tant

Mae un o ddisgyblion talentog yr ysgol hefyd wedi bod yn serennu yn ddiweddar ar ôl sicrhau lle mewn cerddorfa ieuenctid drwy Brydain.

Enillodd Carys Gwenllian Hinds, sydd ym Mlwyddyn Pump, le yng Ngherddorfa Genedlaethol Plant Prydain Fawr wrth chwarae offeryn traddodiadol Cymru, y delyn.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Plant Prydain Fawr yn cynnal cyrsiau rhanbarthol a chenedlaethol gan orffen gyda pherfformiad, gyda nifer yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn. Dim ond y cerddorion ifanc mwyaf talentog sy’n gallu bod yn aelodau o’r gerddorfa genedlaethol addawol hon.

Mae Carys wedi bod yn dysgu canu’r delyn ers tair blynedd gyda’i hathrawes Thelma Owen – ac i ychwanegu at ei thalentau mae hi hefyd yn canu’r piano ac yn canu.

Dyw cariad Carys at y delyn ddim yn syndod, gyda’i mam Catrin Morris Jones yn delynores broffesiynol ac yn athrawes gerdd.

“Mae’n gyffrous iawn i fod yn rhan o gerddorfa wych ac i fod gyda phlant eraill sy’n caru cerddoriaeth gymaint,” meddai Carys Hinds. “Roedd y clyweliad braidd yn frawychus ac roeddwn i’n nerfus iawn. Ond, roeddwn yn ei fwynhau’n fawr ar yr un pryd.”

Mae Carys hefyd wedi ymddangos ar raglen S4C Heno, ac mae’i rhieni Catrin a Chris yn hynod o falch o lwyddiant eu merch.

Bydd Carys yn cymryd rhan yn ei chwrs a’i pherfformiad yn ystod gwyliau’r haf.