Mae safonau darllen plant yn syrthio rhwng dechrau’r ysgol gynradd a’r drydedd flwyddyn mewn ysgol uwchradd.

Dyna sy’n cael ei ddangos gan ganlyniadau cynta’ profion llythrennedd a rhifedd newydd Llywodraeth Cymru.

Mae yna wahaniaeth sylfaenol hefyd rhwng gallu bechgyn a merched i ddarllen, gyda’r genethod yn gwneud yn llawer gwell.

Fe addawodd y Llywodraeth y bydden nhw’n gorfod ystyried y rhesymau am hyn.

Meddai llefarydd: “Fel sydd i’w weld o’r canlyniadau, mae genethod yn perfformio’n well na bechgyn ym mhob cymal o’u haddysg o ran llythrennedd a rhifedd. Mae hyn yn achos cymleth gyda nifer o resymau posib ac mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei wynebu ymhellach.” 

Rhai o’r manylion

  • Mae’r ffigurau’n dangos fod 8.5% o blant Blwyddyn 2, tua dechrau ysgol gynradd, yn gwneud yn waeth na’r disgwyl.
  • Mae’r ffigwr yn codi i 16.5% erbyn Blwyddyn 9, y drydedd yn yr ysgol uwchradd.
  • Roedd y bwlch rhwng bechgyn a genethod yn llai ym maes rhifedd, ond y marched oedd ary blaen unwaith eto.

Ymateb y pleidiau

Fe alwodd y llefarydd Ceidwadol am gael bandiau oedran mwy cyfyng wrth gynnal y profion ac am sefydlu cymal addysg arall rhwng cynradd ac uwchradd.

Mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi cefnogi’r syniad o gymal addysg newydd ar gyfer plant rhwng 8 ac 14 oed.

“Mae’r gostyngiad amlwg ym marciau uchel darllen a rhifedd rhwng blynyddoedd cynradd ac uwchradd yn dangos yn glir bod angen pontio’r bwlch trwy gyflwyno cymal newydd er mwyn esmwytho’r newid rhwng ysgolion,” meddai Angela Burns.

Y peth pwysig, yn ôl llefarydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, yw y defnydd sy’n cael ei wneud o’r ystadegau.

“Yr hyn sy’n bwysig rwan yw fod Llywodraeth Cymru yn egluro sut mae nhw’n bwriadu defnyddio’r profion yma i wella safonau yn ysgolion Cymru,” meddai. “

Gan mai dyma’r tro cyntaf i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi, mae’n anodd eu rhoi mewn unrhyw fath o gyd-destun.”

Ofn gwahaniaeth rhwng ardaloedd

Mae angen edrych yn ofalus ar y ffigurau rhag ofn fod gwahaniaethau o ardal i ardal, meddai un o’r prif undebau athrawon.

Os oes gwahaniaethau, fe fyddai hynny’n dangos fod y gefnogaeth i ysgolion hefyd yn amrywio o le i le, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol yr NAHT, Anna Brychan.

“Delio gyda hynny yw’r flaenoriaeth fwya’ i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd,” meddai.