Gangman Style
Dai Lingual sy’n trafod Ffrinj Caerdydd a rhai o brosiectau lleol eraill y brifddinas.

Cafwyd cyfarfod cyntaf @Cardiffrinj Caerdydd yn ddiweddar, gŵyl a fydd ar ymylon Gŵyl Caerdydd blwyddyn nesaf.

O’n i’n credu ei bod hi’n syniad da i gwrdd mewn lleoliad “niwtral” ar ymylon Caerdydd fel nad oedd unrhyw un yn meddwl ein bod ni’n hyrwyddo unrhyw leoliad yn arbennig yn y brifddinas…felly daeth cyfryngau’r Barri draw i’n gweld yn Izmir.

Roedd Nathan o @broradio yn llawn o ddiddordeb (a mezze) ac am wybod mwy am sut ry’n ni am greu 5 digwyddiad dros bum niwrnod yn ystod yr hydref pan ddaw cynhadledd gerddoriaeth Womex i Gymru.  Ac yn naturiol nes defnyddio’r amser i geisio dwyn perswâd arno i ynganu Bro yn ddeche’, yn lle “bro!” megis ‘iaith y stryd’.

Roedd Chris o bapur newydd y Barri wedi dod draw hefyd, er nad oedd yn sicr pam roedden ni’n cwrdd ym mwyty Twrcaidd y Barri.  Felly nes esbonio iddo…

Dydi’r rhesymau ddim yn gymhleth iawn. Fel un a oedd â diddordeb mewn cefnogi Eisteddfod y Fro eleni,  collais i’r cyfarfod cyhoeddus cyntaf, ble penodwyd Cadeirydd i bob ardal waeth oedden nhw’n bresennol neu beidio.

Roeddwn i’n ddigon diogel nes imi fynd draw i’r cyfarfod cyntaf ym Mhenarth – ac yn un o’r tri a oedd yn fodlon llofnodi i greu pwyllgor.  A finnau’n ddwyieithog, yn sydyn iawn fi oedd yr ysgrifennydd! Tua’r adeg yna y bathais yr enw Dai Lingual felly – doeddwn i ddim am i’m e-bost personol fynd at bawb yn y Fro wrth i’r nodiadau gael eu hela o gwmpas.

Fodd bynnag – heblaw un dafarn, oedd mor anghynnes i’n gwestai cerddorol fel nad oedd budd mewn cynnal noswaith reolaidd yno, a chaffi oedd yn mynnu fod pob tocyn i bob digwyddiad yn cael ei werthu o’u cownter nhw – gweddol brin oedd y gefnogaeth ym Mhenarth nes i Ysgol Penygarth gynnal noswaith trwy garedigrwydd Alwyn a’i Amendments. Felly, erbyn yr haf roeddwn i’n chwilio am leoliad yn y Barri – yn agosach i’r maes – i gynnig gweithgaredd yn ystod y Brifwyl.

Doedd dim angen edrych yn bell, roedd Ali, perchennog y bwyty, yn chwilio am ffordd i ddod i adnabod y bobol a’r diwylliant lleol, ac roeddwn i’n siŵr y byddai noson Gymreig yn ystod yr Ŵyl yn ennyn cefnogaeth frwd.  Ond wedyn, mae yna drafodaeth eang wedi bod yn barod am y Geiniog Gymraeg, ac os yw’n cyrraedd y busnesau lleol yn ystod wythnos (Maes) yr Eisteddfod.

I ddweud y gwir, mi roedd hi’n wythnos go dda yn Llandŵ, lle chwarae teg roedd yr Eisteddfod wedi gwario pob dimau goch yn ofalus a rhesymol (gyda rhyw £50,000 yn weddill dwi’n clywed!)

Fe fydd y flwyddyn nesaf yn gyfle euraidd i ni lwyfannu ein diwylliant i’r byd…pe bai yna ddyn busnes o Siapan yng Nghaerdydd ym mis Hydref i glywed Sŵn a WOMEX, beth fyddai am weld yn y bar lleol? MOR o’r Amerig? Gangam Style o’r Dwyrain Pell??

‘Gangam Style’

Heb os, dwi’n hoffi o’r gân yma – ond a fyddai wedi gwneud cystal petai’n Gymraeg? Ddim o gwbl, wrth reswm byddai defnyddio’r Gymraeg yn ddatganiad rhy wleidyddol i flas unrhyw Sais felly haws defnyddio iaith o ochr draw’r byd os am lwyddiant ysgubol…

Ry’n ni’r Cymry Cymraeg yn lawer rhy gyflym i weld y cyfleoedd o hiwmor trwy fod yn amlieithog, dwi wedi gwneud hyn fy hun ar y trydar – mae’n anodd peidio.

Dwi hefyd yn ei gweld hi’n dra lletchwith i gyfieithu’n union o un iaith i’r llall wrth drydar – mae pob un ohonom ni yn deall yr iaith fain. Ond eto, a yw cael jôc fach yn y Gymraeg ar draul y di-gymraeg yn dderbyniol?  Ydy hi’n rhy hy hefyd i gael gwybodaeth ychwanegol ond i’r Cymry Cymraeg yn y trydar Cymraeg? Credaf fod hynny’n iawn; mae yna rai pethau sy’n mynd i gael ystyr ehangach yn iaith y nefoedd.

Ac wrth sôn am ehangu ieithyddol; petai’r bîb enwog gan Mattisse yn y Gymraeg, a fyddai hynny wedi cael yr un effaith ysgytwol dros y byd?  Je ne sais pas.

Fodd bynnag, cynllun “Ffrinj Caerdydd” yw i gyflenwi’r byd busnes cerddorol gyda’r diwylliant Cymreig cyfoes. Petawn i yn Siapan, bydden i am weld ffilm gan un o’u cyfarwyddwyr mawr megis Kurosawa, neu ffilm Anime…felly i’r rhai sy’n dod o dramor i wlad y gân…

Un o’r ffyrdd hawsaf i @cardiffrinj greu sin yw’n syml i gefnogi beth sy’n dda am biti’r ddinas yn barod. Wythnos diwethaf nes sôn am lansiad llwyddiannus Cwpwrdd Nansi, a’r wythnos hon cawsom lansiad llwyddiannus arall wrth i noson Gymreig – a Chymraeg – arall dechrau arni.

Roeddwn i fel un o drefnwyr y noson newydd yn bles tu hwnt o’r gefnogaeth gan y cerddorion lleol – ac felly’n ystyried creu noson reolaidd i fyfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama – a’r eraill ohonom sy’n llai o ddifrif am ein miwsig – gorau chwarae, cyd-chwarae?…Gewn ni weld.

Chwiliwch am “Becws @bacchuscardiff” ar www.tweetreach.com i weld cyrhaeddiad y sylw i’r noson newydd honno ar y rhwydwaith cymdeithasol.