Dai Lingual sy’n gofyn os oes rôl gan y Cyfryngau Cymdeithasol i’w chwarae yn nyfodol etholiadau.

Ymddengys efallai nad oedd y bobl Ludaidd mor anghywir â hynny ynglŷn â pheryglon peiriannau; prin fod yna wythnos heb stori o beryglon cyfriaduron a’r we ar hyn o bryd.

Sa i’n credu felly y bydd hi’n rhy hir cyn i wleidydd argymell ein bod yn creu twmpath o gyfrifiaduron a’u llosgi’n ulw – a synnwn i ddim petai’r “etholiad” diweddar o Gomisiynwyr i’r heddlu yn gyfrifol am ddod ag ambell syniad draconaidd i’r sylw ac, i raddau, r’yn ni’n haeddu hynny ar ôl arddangos y fath diffyg diddordeb yn y broses wleidyddol.

Mae pawb wedi clywed am yr ardal yng Nghasnewydd lle doedd neb wedi pleidleisio; eto i gyda mae’n siŵr fod yna ddigon o bleidleisio wedi bod yn yr un fro i gadw Michael Vaughan yn Strictly heb son am X i’r X Factor.  Yw hi’n amser felly i adnewyddu’r rheolau fel bod posib ethol yn electroneg neu drwy’r ffôn? Wedi’r cwbl, mae’r bleidlais drwy’r post yn gallu cyfrif, felly pam nad drwy e-bost?

Be fyddai’n fwy democratig na mesur llwyddiant gwleidydd drwy ei nifer o “Hoffis” ar weplyfr , neu ei nifer o RTs / ail drydar ar Twitter?  Dw i’n dal i ysu i gysylltu ag Andrew RT Davies i weld a yw e’n gweithredu beth mae ei enw yn awgrymu. Efallai taw hon yw’r wythnos? Atgoffwch fi ar y trydar te … @dailingual wrth gwrs.

Yn ein pentref ni, etholiadau yw’r unig gyfle gewch chi i weld yr iaith Gymraeg wedi ei harddangos ar Neuadd Y Pentref, felly mae’n werth troedio draw i gael sbec. Yn ôl clerc y Cyngor, does dim angen iddyn nhw arddangos enw’r neuadd yn y Gymraeg fel arfer gan nad yw hynny’n ddyletswydd arnyn nhw yn ôl eu polisi iaith.  A dyna fi’n meddwl byddai’n eitha peth i gael Neuadd Goffa yn iaith y wlad ei hun yndyfe, ond mae’n debyg nad oedd hynny wedi gallu digwydd oherwydd cyllid – a diffyg lle ar gyfer arwydd parhaol.

Eto, mae’n rhaid bod yn drugarog o ffaeleddau eraill, a hefyd yn ddiolchgar am bob bendith. Pe bawn i er enghraifft yn ysgrifennu’r darn yma yn Tsieina, prin iawn y byddai unrhyw farn yn erbyn trefn y wladwriaeth yn cyrraedd y We o gwbl: mae Jiang Fangzhou, un o brif flogwyr Tsieina wedi arfer a derbyn galwad ffôn ar ôl ceisio cyhoeddi ei blog hi, i ymddiheuro iddi fod yn rhaid iddi newid y cynnwys os yw am i’r darn aros ar y We.

Efallai mai oherwydd ei bod hi’n ceisio cwyno o gwbl y mae ganddi bron i 8 miliwn o ddilynwyr arlein yn ei chanlyn ar wefan gymdeithasol swyddogol y wlad (hynny’n fwy na Posh Spice ar twitter, ac felly hefyd Wayne Rooney!).

O leiaf mae boblogaeth Tsieina felly yn rhoi’r gwerth mwyaf oll ar yr hawl i leisio barn, yn y wlad lle mai’r unig etholiadau sy’n cyfri yw’r etholiadau o fewn y Blaid Gomiwnyddol i ddewis arweinyddion newydd. Dyna’r drefn, ac yn ddiweddar iawn fe gawson nhw arweinwyr newydd, hoelion wyth newydd y wlad sydd wedi addo rhoi pen ar arferion llygredig swyddogion y wladwriaeth.  Pa obaith o hynny mewn gwirionedd?

A draw yn America ar hyn o bryd, dwi’n gwylio’r dyn ei hun Will.I.Am yn sôn am effaith y cyfryngau digidol ar ddiwylliant modern – debyg bod “Gangam Style” wedi cyrraedd yr Unol Dalieithau hefyd!  Yn ei weledigaeth ef, fe ddaw y dydd pan fydd y dechnoleg ddiweddara’n creu’r rhaglenni teledu; ac nid cyfuniad o hysbysebwyr a gorsafoedd traddodiadol. Mae ganddo ryw syniad am gyfryngau ryngweithiol…credu bod e wedi gweld “The Radicalisation of Braldey Manning” pan fuodd e draw yr ochr yma o Fôr yr Iwerydd!

Efallai y dylai Will ymweld â www.sianel62.com – maen nhw’n edrych am arloeswyr ym myd y cyfryngau…felly cyfrannwch, cyfranogwch, a phleidleisiwch da chi; neu man a man i chi fyw yn Tsiena.

Yr wythnos hon, fe fydd Dai Lingual yn cofrestru ei fusnes ar www.golwg.com/lle-busnes ; y cyfeirlyfr mwyaf diweddar sydd gennym at fudd Cymry Cymraeg. Cyfranogwch –  a phorwch…Heb anghofio chwaith am #yrawrgymraeg bob nos Fercher ar y trydarbeth!