Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth er mwyn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd.

Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, yn ymweld ag Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar heddiw i lansio’r strategaeth sy’n anelu at wella profiad pobol o dderbyn gofal iechyd rheng flaen trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o siaradwyr Cymraeg fynegi eu hanghenion gofal yn effeithiol,” meddai Gwenda Thomas.

“Er enghraifft, yn aml bydd pobl sy’n dioddef o ddementia a phobl â strôc yn colli gafael ar eu hail iaith. Ac yn aml bydd plant o dan bump oed ond yn gallu siarad yn eu mamiaith.

“Nod y fframwaith yw gwella ansawdd y gofal drwy sicrhau bod y rhai sy’n darparu gwasanaethau yn cydnabod mai eu cyfrifoldeb nhw yw ymateb i anghenion neu ddymuniad pobl i dderbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Cam pwysig i wella lles emosiynol’

Dywedodd Lesley Griffiths, fod y llywodraeth am “wneud yn siŵr fod defnyddwyr a’u teuluoedd yn teimlo y gallan nhw ddefnyddio’r Gymraeg wrth gael eu hasesu ac wrth dderbyn triniaeth neu ofal.”

“Mae pawb yn teimlo’n hapusach i drafod eu hiechyd personol a materion emosiynol yn eu mamiaith.

“Mae’r fframwaith hwn yn gam pwysig a fydd yn gwella nid yn unig les corfforol a meddyliol siaradwyr Cymraeg sydd angen gwasanaethau iechyd a gofal, ond hefyd eu lles emosiynol,” meddai Gweinidog Iechyd Cymru.

Comisiynydd y Gymraeg am gadw ‘llygad barcud’ ar y strategaeth

Wrth ymateb i gyhoeddi’r fframwaith strategol heddiw, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws mai “nid mater o ddewis neu ddymuniad yw gwasanaeth Cymraeg yn y maes iechyd a gofal, ond gwir angen sy’n ganolog i driniaeth glinigol.”

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr angen hwn, ac yn ymrwymo i ddatblygu’r gwasanaethau Cymraeg trwy gyfrwng y fframwaith strategol hon,” meddai Meri Huws.

“Mae ‘Mwy na geiriau’ yn gosod her i’r gwasanaethau a’r ymarferwyr iechyd a gofal. Bydd gan y Llywodraeth rôl bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod yr egwyddorion a’r ymrwymiadau yn cael eu gweithredu, a byddaf fi fel Comisiynydd yn cadw llygad barcud ar y ffordd y bydd y Llywodraeth yn monitro cynnydd yn erbyn y targedau.”