Dylan Iorwerth yn gweld pwynt yn y protestiadau tros annibyniaeth S4C…

Mae hi bron fel yr hen ddyddiau. Cymdeithas yr Iaith yn meddiannu stiwdio’r BBC gan eistedd ar y llawr a gwneud pethau hen ffasiwn felly.

Mae fel yr hen amser hefyd am reswm arall. Mae gan y Gymdeithas darged cwbl glir a phwynt cymharol syml y tu cefn i’r brotest.

Oherwydd datganoli a’r ffordd y mae byd yr iaith Gymraeg wedi cymhlethu yn ystod y degawdau diwetha’, tydi hynny ddim wastad wedi bod yn hawdd.

Yn fwy na hynny, tydi’r math o bynciau a dadleuon sydd wedi codi ddim wastad wedi gweddu i weithredu uniongyrchol, yn enwedig gan fod y targedau’n llawer nes aton ni bellach.

Ond, y tro yma, mae yna frwydr uniongyrchol glir i’w hymladd.

Atal y trafodaethau

Mae’r Gymdeithas yn ceisio atal y trafodaethau sy’n digwydd rhwng S4C a’r BBC i weithredu gofynion y Llywodraeth ar i’r naill fynd dan adain y llall.

Mi fydd y tactegau’n sicr o gael eu condemnio ac mi fydd rhai’n dadlau nad oes gan Gymdeithas yr Iaith fawr o obaith ennill.

Wedi’r cyfan, medden nhw, mae pawb yn gorfod derbyn toriadau gwario – er nad cymaint â’r 40% mewn arian go iawn y mae’r sianel yn eu diodde’.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi addo y bydd y sianel yn cadw’i hannibyniaeth olygyddol, medden nhw, ond mae angen craffu’n ofalus ar yr union eiriau a cheisio deall beth ydi eu hyd a’u lled.

Codi cywilydd

Ceisio codi cywilydd ar y BBC ydi un o’r tactegau – dyna pam bod y protestio’n digwydd yn ei hadeiladau hi yn hytrach na rhai’r llywodraeth – ac mae’r Gymdeithas eisoes wedi ennill cynnig gan bennaeth y Bîb, Mark Thompson, i gwrdd â nhw.

Hyd yn oed o golli’r frwydr ar y penderfyniad mawr cychwynnol, mae yna dir i’w ennill a’i golli tros annibyniaeth S4C. Mae eisio mwy nag annibyniaeth olygyddol. Mae eisio annibyniaeth gyflawn i weithredu yn ôl anghenion y gynulleidfa Gymraeg.

Go brin y bydd yna dro pedol rŵan ond mae yna frwydr dymor hir i’w hymladd hefyd tros  gyllid. Os bydd y ‘bartneriaeth’ rhwng y ddau ddarlledwr yn digwydd, mi fydd yna ymrafael yn y dyfodol tros arian.

Mae yna beryg y bydd arian S4C yn mynd yn rhan o gyllideb gyffredinol y BBC ac y bydd rhaglenni Cymraeg yn gorfod ymladd am eu siâr o’r gacen Gorfforaethol. Mae angen dangos rŵan na fydd hynny’n dderbyniol .

Gan nad ydi’r Llywodraeth wedi gwrando ar holl wleidyddion Cymru – gan gynnwys eu harweinydd eu hunain yng Nghymru – mae’n ymddangos mai dim ond protestio sydd am wneud iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn codi nyth cacwn eto.

Ac un peth arall …

Ac mae yna un peth mawr arall. Mi ddylen ni, bobol Cymru, fod yn cael gwybod lle’r ydan ni arni o ran y trafodaethau.

Be sy’n digwydd? Be sy’n cael ei drafod? A pham?