Caryl Parry Jones - arloeswr
Dai Lingual sy’n gofyn a oes modd i’r Cymry Cymraeg arloesi ar-lein.

Fel clywsom ni yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol gan neb llai na Mr Talfan o’r BBC, eisoes mae dros hanner o’n Cymry yn defnyddio’r weplyfr, ond mae’n debyg mae ond 10% ohonom sy ar Twitter.

Mae’n siŵr bydd llawer mwy yn mentro wedi’r cyfarwyddiadau ar sut i drydar yn Gymraeg ar flog Golwg360 yn ddiweddar – gyda diolch!

Mae sawl un yn y maes digidol yng Nghymru yn gytûn bod hi’n hen bryd i ni ddala lan â gweddill Prydain wrth geisio gwerthu ein talent fel gwlad. Mae’r dalent yma heb os – ac ym maes dechnoleg fe wnaeth griw o Gymry Cymraeg ennill blog gorau technoleg y flwyddyn eleni yn ‘The Welsh Blog Awards’.  Yn anffodus doedd dim llawer ohonynt ar gael ar y noson felly fel John Terry y brifddinas, es draw i godi’r cwpan (tystysgrif uniaith Saesneg) ar ran Hacio’r Iaith gydag un arall o’u criw sef Hywel Jones o Gaerdydd.

Roedd Hywel yn ddigon dewr i ddiolch ac annerch yn y Gymraeg yn unig…gan fy mod i’n gwisgo’r crys T dai:lingual roeddwn i’n meddwl byddai well annerch yn y ddwy iaith…

Cardiffrinj

Ar hyn o bryd rydw i’n ceisio helpu’r tîm sy’n cynhyrchu rhaglenni ar ran Sianel 62, sy’n darlledu deunydd iaith Gymraeg yn fisol ar y we.  Dwi’n gobeithio  cydlynu darllediad byw yn y flwyddyn newydd, fel ymchwil pellach i’r prosiect diweddara…

www.twitter.com/cardiffrinj sef micro-wefan newydd i hybu Gŵyl ‘fringe’ i Womex yn 2013 wedi imi gael gwahoddiad gan John Rostron o Sŵn / Welsh Music Foundation i greu a chynnal gŵyl ddiwylliant Gymreig yn yr wythnos sydd rhwng Sŵn a WOMEX yn 2013.  Mae nifer o leoliadau wedi cytuno i gynnig llwyfan i dalent Gymreig.

Bydd creu presenoldeb ar-lein yn rhan annatod o lwyddiant y prosiect Cardiffrinj Caerdydd, ac wedi cyfres o gyfarfodydd cadarnhaol yn ystod yr wythnos ddiwethaf gyda busnesau’r brifddinas mae’n edrych yn brosiect reit gyffrous.

Mae f’ymchwil diweddaraf (Nos Sadwrn) yn awgrymu byddai yna lefel o ddiddordeb sylweddol mewn ymgyrch yn 2013 i ddenu diddordeb a brwdfrydedd am ddiwylliant a chynnyrch Cymru cyn WOMEX yng Nghaerdydd yn yr hydref….

Cyfleoedd Cymraeg

Dychwelais i Gymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg am ddim i fy merch, a nawr dwi yma dwi’n awyddus i geisio helpu sicrhau y cyfleodd ges i iddi hi, ac felly pob plentyn ifanc arall yng Nghymru:

  • cyfle i chwarae a mwynhau am bethau allgyrsiol mewn amgylchedd ysgol
  • cyfle i ymarfer a chystadlu chwaraeon a chelfyddyd ag ysgolion eraill
  • a phob dim arall oeddwn i’n cymryd yn ganiataol yn Ysgol Rhydypennau a Phenweddig, gyda diolch sylweddol i athrawon a rhieni’r ysgolion hynny.

Rwyf yn lwcus i fod ymysg y genhedlaeth gyntaf o fyfyrwyr i ddefnyddio’r we yn y Deyrnas Unedig. Gan fod fy mrawd yn yr UDA pan oeddwn i’n astudio ym Manceinion, dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o gadw mewn cysylltiad, felly’n fuan iawn des i nabod y wahanol gonfensiynau, sydd dal i ddatblygu o ddydd i ddydd wrth gwrs.

Felly, a oes modd cyfuno gwerthoedd traddodiadol Cymreig gyda’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn creu cymuned Gymreig ar-lein sy ddim yn ddibynnol ar fformat estron?

Roedd www.maes-e.com yn llwyddiant ysgubol am flynyddoedd, digon teg bod y maes yna wedi colli ambell un o’r genhedlaeth ddiweddaraf i’r weplyfr a’r trydar…tybed a oes modd dysgu gwers am sut mae cynnal gwefan dros gyfnod hir heb orfod addasu neu ail-lansio’n ormodol?

Ond, wedi ystyried y syniad yna, pe bawn i’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn yna, byddai Google, YouTube a phob gwefan arall eisiau’r ateb gymaint â neb.

Angen arloesi

Fel mae’n digwydd, dwi newydd weld clip o Prof. Anthony King o Gymdeithas Frenhinol y Teledu (Royal Television Society). Mae’n honni bod darllediadau’r BBC ar ddatganoli wedi gwella rhywfaint ar ôl cyfnod le oedd cael hyd i’r ffeithiau’n gallu bod yn ormod iddynt…

Ond mae King yn poeni nad oes yna ddigon o arloesi yn yr Alban a Chymru; fel mae’n dweud ei hun :

os yw’r NHS er enghraifft yn wahanol yng Nghymru; pam mae’n wahanol, sut mae’n wahanol, a pha effaith mae hyn yn ei gael?

Roedd Rhodri Talfan yn galw am arloesi yn yr Eisteddfod hefyd, ond hoffwn i wybod a yw arloesi’n fwyaf tebyg pan fod angen e (“Necessity is the Mother of Invention”) neu pan fod pobl mond yn gofyn amdano, megis archeb.

Wrth sôn am y ‘Mothers of Invention’, mae Frank Zappa yn dod i’r cof…yr arloeswr mwyaf o ddiwedd yr 20fed ganrif efallai, ym maes roc, jazz, gitar, ffilm, llenyddiaeth – ac hyd yn oed gwleidyddiaeth ar y cyfandir.

O edrych dros ein hanes ni fel Cymru, a yw dyn yn ofni ein bod wedi bod yn lwcus i gael gymaint o arloeswyr o Daniel Owen i Saunders Lewis, o Mari Jones i Caryl Parry Jones…a fyddwn ni yn ddigon lwcus i weld eu tebyg eto?

Achos, bydden nhw ar-lein beth bynnag wedyn; efallai taw dyna’r ffordd i edrych ar y broblem greadigol yma mae King a Talfan wedi’i chlustnodi:

  • heb os, fe ddaw’r meddyliau creadigol yn y genhedlaeth nesaf
  • mae’n siŵr y daw’r clod a’r sylw atynt – fel sy’n arferol yn ein diwylliant chwarae teg!
  • ac fel adwaith i hyn, fe gall cyfryngau traddodiadol a chwyldroadol y Cymry adlewyrchu hyn…gan gynnwys ar-lein.

Dim problem felly.