Mae Plaid Cymru wedi dechrau arddel Party of Wales yn unig wrth gyfathrebu yn Saesneg – ni fyddan nhw’n cyfeirio at ‘Plaid Cymru’ mewn cyfweliadau yn yr iaith fain o hyn allan.

Ond gwadodd llefarydd fod yna ail-frandio wedi bod gan ddweud fod y Blaid wedi penderfynu gweithredu argymhellion adolygiad ‘Camu Mlaen’.

Maen hefyd wedi pwysleisio nad yw enw swyddogol y blaid yn newid – Plaid Cymru: The Party of Wales fydd hwnnw o hyd ond y bydd mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r elfen Saesneg.

Cafodd yr adolygiad mewnol ei arwain y llynedd gan yr economegydd Eurfyl ap Gwilym gan ddod i’r casgliad fod rhaid mynd i’r afael â’r ddelwedd mai plaid i siaradwyr Cymraeg yn unig yw’r Party of Wales.

Un o awgrymiadau’r adolygiad oedd defnyddio’r enw Welsh National Party er mwyn apelio at siaradwyr Saesneg.

Ond mewn datganiadau Saesneg yr wythnos yma mae Plaid Cymru yn defnyddio Party of Wales.

“Paid troi yn dy fedd Saunders Lewis,” meddai’r sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes wrth ymateb i’r newid ar ei flog.

Hanes yr enw

Cafodd Plaid Genedlaethol Cymru ei sefydlu yn 1925, a dechreuodd ddefnyddio’r enw Plaid Cymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Erbyn etholiad 1999 roedd y blaid yn defnyddio’r enw dwyieithog Plaid Cymru-The Party of Wales.

I gyd-fynd gyda newid logo o’r triban i’r pabi melyn yn 2006  dechreuodd y Blaid arddel yr enw ‘Plaid’, ond roedd y defnydd yn anghyson.