Asia Rybelska a Kinga Uszko sy’n adrodd hanes taith tair Pwyles i Gaernarfon yr wythnos diwethaf.

Roedd ein hysfa i fynd i’r Gogledd yn tyfu ynom ers cryn amser, ac o’r diwedd cawsom gyfle i wneud hynny’r wythnos ddiwethaf.

Wrth gwrs, cyn mynd, roedd yn rhaid inni wirio rhagolygon y tywydd, gan na fyddai trip yn y glaw yn gwneud llawer o synnwyr! Honnai rhagolygon y Bîb byddai’r diwrnod yn un braf, ond…

Yn syth ar ôl inni gyrraedd, dechreuodd storm ofnadwy! Roedd yn bwrw glaw, roedd taranau’n swnllyd, mellt yn fflachio yn y nefoedd, a’r gwynt yn ein bwrw gyda glaw trwm. Doedd gennym ni ddim dewis ond cysgodi rhag y glaw yn y Ganolfan Dwristiaeth, ac wedyn sawl siop ar ein ffordd (lle brynom ni ambell gofrodd fechan ond prydferth). Yn ffodus inni, daeth y storm i ben yn eithaf buan, felly ailddechreuom archwilio’r dref.

Ysblander

Gan mai dim ond un ohonom oedd wedi bod yng Nghaernarfon o’r blaen, roedd y ddwy arall yn ei dilyn drwy’r strydoedd. A’r lle cyntaf inni ymweld ag ef (a ninnau’n ddarllenwyr brwdfrydig), oedd siop lyfrau, lle cawsom sgwrs â merch y siop. Hefyd, gwelsom sawl siop ddiddorol arall (gan gynnwys Tŷ Siocled!) ar ein ffordd i ganol y dref.


Pistyll
Yno, mae eglwys Bresbyteraidd (a oedd ar gau, yn anffodus, ond o leiaf gallem ei hedmygu o’r tu allan), cofgolofn y Rhyfel Mawr Cyntaf, cerfluniau Hugh Owen a David Lloyd George, a phistyll anarferol iawn.

Ond, y peth cyntaf i ddal sylw pawb sy’n crwydro drwy ganol y dref ydy’r castell enwog o oes y Brenin Edward I. Cawsom ein synnu gan ei enfawredd ac ysblander, ond aethom ddim i mewn. Fodd bynnag, fe wnaethom grwydro o’i gwmpas, ac mae gennym lawer o luniau gwych.

Lawr ar lan y môr

Ar ôl hynny, penderfynodd Kinga aros yn y Marina, wrth i Asia a Marta fynd ati i archwilio tiroedd ymhellach i ffwrdd.

Ac felly, oherwydd y tywydd braf, daeth teuluoedd mentrus i’r Marina i hela crancod a physgod yn y dyfroedd ger y pier. Ac roedd y mwyafrif ohonyn nhw’n bwyta hufen iâ peraroglus, er gwaethaf gwynt oer.

Hefyd, roedd yna gryn dipyn o bobl yn crwydro gyda’u cŵn. Yn sydyn, daeth yna sŵn uchel: roedd un o longau bleser Caernarfon yn mynd allan ar drip. Roedd y sŵn yn arwydd i bobl adael pont yr harbwr, a gafodd ei throi i adael i’r llong fynd ar ei hynt. Wedyn, daeth y sŵn unwaith eto, ac aeth popeth yn ôl i’w le.

Yn y cyfamser, roedd y tiroedd y tu hwnt i’r bont yn datgelu eu cyfrinachau i ni. Yn gyntaf, aethom i’r parc ger glan y môr (fe’n denwyd gan fwrdd gwyddbwyll awyr agored, ond methom a’i ganfod), ac wedyn i’r traeth, lle gawsom gip ar Ynys Môn. Yn anffodus, allem ni ddim cyrraedd yno heb wlychu (gan fod Pont Britannia yn wyth milltir i ffwrdd), felly roedd yn rhaid inni fodloni ar ddelweddau pert. Ar ôl ychydig o edmygu, aethom yn ôl i’r Marîna.

Arallgyfeirio


Yr Hwylfan
Wedyn, daeth amser cinio, felly aethom i’r dref i gael rhywbeth i’w fwyta. Gan fod tipyn o amser nes i’n bws yn ôl i Aberystwyth gyrraedd, penderfynom gerdded i’r arosfa er mwyn gweld gweddill y dref.

Ar y ffordd, gwelsom ni eglwys odidog arall. Ond, er mawr siom ni, trodd allan mai nid eglwys oedd hi bellach, ond ‘Yr Hwylfan’! Rhyfedd oedd gweld sut trodd lle sanctaidd i’r un swnllyd a llawn o beli lliwgar plastig. Bobol bach!

Ar y ffordd adref, roeddem yn mynd trwy Barc Cenedlaethol Eryri, felly ardal sy’n anhygoel o brydferth fel y mae, ond cawsom ein syfrdanu ymhellach gan i ni weld enfys anhygoel ar y ffordd.


Ar y cyfan, bu i ni fwynhau ein hunain yng Nghaernarfon yn fawr iawn. Er gwaethaf ein blinder wedyn, roedd yn werth treulio chwe awr ar y bws i weld a phrofi popeth!