Dylan Iorwerth sy’n dweud bod sgandal lwfansau’r aelodau seneddol yn cynnig cyfle…

Lle’r oedd tail y mae’r glaswellt yn tyfu orau … a dyna pam fod sgandal lwfansau’r aelodau seneddol yn cynnig clamp o gyfle.

Fydd newid y system dreuliau ddim yn ddigon; fydd cael gwared ar y Llefarydd druan ddim yn ddigon; fydd hyd yn oed Etholiad Cyffredinol ddim yn ddigon i droi hyn er lles.

Mae’r helynt diweddara’ yn fwy nag un system fach bwdr ac yn fwy na barusrwydd a thwyll ambell Aelod Seneddol; mae’n arwydd o drefn sy’n gwegian oherwydd ei bod hi heibio ei sel-bei.

Mewn sawl ffordd, mae Ty’r Cyffredin wedi colli ei ystyr, efo grym yn mynd i ffwrdd i ddau gyfeiriad – y gwledydd datganoledig ac Ewrop – ac efo’r Prif Weinidog a’i gabinet wedi sbaddu’r aelodau ers blynyddoedd lawer.

Dyma’r cyfle felly i newid y drefn yn llwyr – i fynd â datganoli i’w ben draw call, efo seneddau llawn yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (a chymryd am y tro na fydd hi’n mynd at Ddulyn) a senedd ffederal o fath ar gyfer materion Prydeinig.

Os ydi trefn yn gwneud sens, mae’n haws iddi fod yn drefn onest ac agored hefyd. Ydi, mae hyn yn drewi … yn union fel tail.