Bydd rhaid i hen gapel yn Abertawe gael ei chwalu ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan dân yn oriau man y bore ma.

Mae’r gwasanaethau brys yn ymchwilio i beth achosodd y tân yng nghapel Libanus ar Stryd Caerfyrddin ym maestref Cwmbwrla.

Bu’n rhaid gwagio pedwar tŷ a chau ffyrdd o amgylch y capel ar ôl i’r tân gynnau. Mae disgwyl oedi ar y ffordd am oriau eto.

Galwyd y gwasanaethau brys tua 4.20am a brwydrodd wyth criw, gan gynnwys tua 50 o ddiffoddwyr tân, y fflamau am bedair awr.

Erbyn y bore dim ond rhan o’r capel, a gaeodd yn y flwyddyn 2000, oedd yn sefyll.