Mae Tafwyl, gŵyl gelfyddydau a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Fehefin 20, 2020.

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio’n fyw o Gastell Caerdydd gan gynnig cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.

Clwb Ifor Bach sydd yn curadu’r gerddoriaeth, gyda 10 artist yn perfformio.

Mae’r rhain yn cynnwys setiau byw gan Al Lewis, y grŵp roc-amgen HMS Morris, a’r berfformwraig electro-pop Hana2K.

Ymysg y setiau acwstig bydd perfformiadau gan Casi, Gareth Bonello ac Alun Gaffey.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, darperir nifer o elfennau arferol Tafwyl, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol a gweithdai i blant.

Bydd yno sesiwn holi-ac-ateb gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gweithdy syrcas i blant gyda Nofit State a sesiwn lenyddol gyda chriw Y Stamp.

“Mae’r gigs ystafell wely a welwyd yn ddiweddar gan wyliau poblogaidd eraill wedi bod yn wych wrth gwrs wrth lenwi’r bwlch diwylliannol dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd y tîm ym Menter Caerdydd yn teimlo y byddai’n anhygoel gallu cynnig cynhyrchiad o safon i artistiaid a gwylwyr gartref, a hynny o leoliad eiconig, gan ddathlu popeth sy’n wych am ein hiaith a’n diwylliant,”meddai Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, sy’n trefnu’r ŵyl.

Tra bod Huw Stephens, a fydd yn cyflwyno o’r castell ar y dydd wedi dweud:

“Mae’n haf gwahanol a rhyfedd i bawb. Ond mae Caerdydd, Cerddoriaeth a’r gymuned Gymraeg yn parhau i ddod a dipyn bach o oleuni i fis Mehefin.

“Fi’n falch iawn gallu bod yn rhan o Tafwyl 2020, gyda chymaint o ddigwyddiadau diddorol yn digwydd yn rhithiol, ac wrth gwrs deg artist fydd yn chwarae sets i ni yn fyw o Gastell Caerdydd. Logiwch mlaen, chiliwch allan, trowch e lan.”