Mae dau o bobol wedi cael eu hachub ar ôl cael eu torri i ffwrdd gan y llanw, wrth i fad achub y Rhyl ymateb i’r drydedd alwad mewn tri diwrnod.
Cafodd y pâr eu hamgylchynu gan ddŵr dwfn ger y tai cychod ar draeth y Rhyl ychydig cyn 5 o’r gloch neithiwr (nos Lun, Mehefin 1).
Pobol ar y lan wnaeth seinio’r larwm a chafodd bad achub y Rhyl ei lansio.
Cafodd y ddau ar fwrdd y bad achub eu hebrwng yn ôl yn ddiogel i’r lan.
Daw hyn ar ôl y penwythnos pan welodd Bad Achub y Rhyl a thîm achub Gwylwyr y Glannau y Rhyl dros 70 o bobol oedd wedi eu torri i ffwrdd ar fanciau tywod oherwydd y llanw.
Peidio mentro
“Rydym yn annog y cyhoedd yng Nghymru i gofio’r cyngor canlynol ynghylch diogelwch,” meddai Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch Dŵr i’r RNLI yng Nghymru.
“Aros mewn amgylchedd cyfarwydd a dilyn cyngor Llywodraeth Cymru.
“Peidiwch â rhoi eich hun, eich teulu a’ch gwasanaethau brys mewn perygl drwy fentro neu dybio na fydd yn digwydd i chi.”
Mae cyfran uchel o’r galwadau i’r RNLI yng Nghymru wedi dod yn sgil pobol yn cael eu torri i ffwrdd gan y llanw, gan gynnwys yn ystod gwarchae’r coronafeirws.
Mae rhai ardaloedd yng Nghymru yn gweld y llanw uchaf yn Ewrop, a gallai traeth a oedd yn glir am 2 o’r gloch ar un diwrnod gael ei orchuddio’n llwyr gan fôr yr un pryd y diwrnod canlynol.
“Os ydych yn mynd allan am dro ar yr arfordir, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel cyn i chi fynd,” meddai Chris Cousens.
“Dylech bob amser edrych ar amseroedd ac amodau’r llanw cyn i chi gychwyn, a thra eich bod allan, bod yn ymwybodol o’ch amgylchedd a chadw llygad ar gyfeiriad y llanw.
“Gofynnwch am gyngor lleol a chwiliwch am arwyddion diogelwch.”
‘Mwynhau ond bod yn ymwybodol’
O ddoe (dydd Llun, Mehefin 1), mae’r cyhoedd sy’n byw o fewn pum milltir i draeth y Rhyl yn gallu mynd yno.
Neges RNLI y Rhyl yw i fwynhau eich amser ar y traeth, ond i fod yn ymwybodol ar hyn o bryd nad oes unrhyw batrolau achubwr bywyd, ac y gall y llanw ddod i mewn yn gyflym.
Mae’n bosibl fod tymheredd yr aer yn cynhesu ond mae tymheredd y môr yn oeri drwy’r flwyddyn.
Gall neidio neu ddisgyn i ddŵr oer neu dreulio cyfnodau hirach nag arfer yn y dŵr achosi sioc dŵr oer, allai fod yn angheuol o bosibl, yn ôl arbenigwyr.
Mae gwirfoddolwyr bad achub y Rhyl ar alwad 24 awr y dydd, ac mae’n nhw’n atgoffa pawb i gofio, os byddwch chi’n mynd i drafferthion neu’n gweld rhywun mewn trafferth ar yr arfordir, y dylid ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau.