Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub mae 120 hectar o dir wedi ei ddifrodi yn dilyn tân yng Nghwm Einion rhwng Aberystwyth a Machynlleth.

Yn wreiddiol roedd y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi amcangyfrif mai 64 hectar o dir oedd wedi ei ddinistrio ger Ffwrnais yng Ngheredigion, ond o ganlyniad i dywydd sych fe ymledodd y tân a bu rhaid defnyddio hofrennydd geisio rheoli’r fflamau.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru mae’r tân a gafodd ei ddechrau ar y glaswelltir ger Llyn Conach bellach wedi ei ddiffodd.

“Mae’n ymddangos bod y tân wedi dechrau ar dir y glaswelltir ger Llyn Conach, ac yna wedi ymledu i goedwigaeth gyfagos Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru sy’n cael ei rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’r tân bellach wedi stopio llosgi a bydd ein staff yn asesu’r difrod i’r ardal, gan gynnwys difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

“Mae tanau gwyllt yn gallu achosi difrod ofnadwy i gymunedau lleol, bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

“Gyda’r argyfyngau hinsawdd a natur barhaus, dyma’r peth olaf sydd ei angen ar dirwedd Cymru.”

‘Trasiedi’

Mae lle i gredu bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol ger Llyn Conach, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd y Sarjant Marc Davies o Heddlu Dyfed-Powys “mae’n drasiedi gweld y dinistr a’r niwed i fywyd gwyllt a’r amgylchedd.”

“Nid yn unig y mae’r tanau hyn yn peri risg sylweddol i ddiogelwch ein cymunedau, ond rydym yn gweld yma fod safle bywyd gwyllt o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o bwys cenedlaethol yn cael ei ddinistrio.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth a all ein helpu i adnabod y bobol hynny sy’n gyfrifol am y tân hwn, cysylltwch â ni.”