Mae deiseb sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth i ddysgu Hanes Cymru mewn ysgolion yng Nghymru wedi ei llofnodi gan dros 5,000 o bobol.

Pan fydd deiseb yn casglu dros 5,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd.

Bwriad Elfed Jones, a greodd y ddeiseb, yw ei chyflwyno i Senedd Cymru pan fydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn cael eu llacio, ac mae wedi dweud wrth golwg360 y byddai’n fodlon ymprydio i wneud yn siŵr fod ei lais yn cael ei glywed.

Eglurodd Elfed Jones sydd yn wreiddiol o Drawsfynydd, ond sydd bellach yn byw yn Aberystwyth: “Mae’n bwysig dysgu hanes ein cenedl a’n treftadaeth i bawb sy’n mynd drwy’r system addysg yng Nghymru.”

“Dwi eisiau gwneud yn siŵr fod y mater pwysig yma yn cael ei drafod yn iawn a’i fod ddim yn cael ei daflu i’r ochr yng nghysgod y coronafeirws.

“Dwi am roi pwysau ar y llywodraeth, a hyd yn oed yn fodlon ymprydio.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Elfed Jones cyflwyno deiseb i’r pwyllgor deisebau, cyflwynodd ddeiseb yn 2018 hefyd yn galw am newidiadau i sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion.

“Y rheswm dros greu’r ail ddeiseb oedd gan fod y Gweinidog Addysg wedi derbyn bob pwynt o fy neiseb gyntaf heblaw am y pwynt am greu corff cyffredin o wybodaeth.”

“Cwricwlwm pwrpasol sy’n torri cwys newydd”

Mae Cwricwlwm Cymru yn nodi y dylai gwersi hanes yng Nghymru gyflwyno dysgwyr o bob oed i ystod o gyfnodau hanesyddol ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang.

Y llynedd gwrthodwyd argymhelliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylai Cwricwlwm i Gymru 2022 gynnwys canllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes.

Mewn ymateb i’w argymhelliad dywedodd y Llywodraeth Cymru fod “y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm pwrpasol sy’n torri cwys newydd drwy ymwrthod â rhestrau o bynciau sydd i’w haddysgu.”

“Bydd canllawiau’r cwricwlwm hefyd yn glir ar ba mor bwysig ydyw i adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a’i hamrywiaeth, ynghyd a gwerthoedd, hanes a thraddodiadau ein cymunedau a’n pobl.

Mater o ddehongliad

Er hyn mae Elfed Jones, sydd hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, yn credu y gall y pwysau ar athrawon a’r diffyg adnoddau arwain at anghysondeb yn sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu ar draws y wlad.

Mae’n bryder sydd hefyd wedi ei leisio gan yr hanesydd Elin Jones a ddywedodd mai “mater o ddehongliad” yw faint o hanes Cymru y dylid ei ddysgu, a’i bod hi’n destun tristwch a rhwystredigaeth nad yw’r cwricwlwm newydd i Gymru yn dweud yn bendant fod angen dysgu Hanes Cymru yn y gwersi.