Mae Boris Johnson yn parhau mewn “cyflwr sefydlog”, yn ôl aelod o’i gabinet, wedi iddo dreulio trydedd noson mewn uned gofal dwys.

Daeth i’r amlwg fis diwethaf bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi derbyn prawf positif am coronaferiws.

Mae wedi bod yn Ysbyty St.Thomas, Llundain, ers dydd Sul, ac ers dechrau’r wythnos hon mae wedi bod yn ei huned gofal dwys.

“Mae mewn cyflwr sefydlog,” meddai’r Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden, wrth raglen Today BBC Radio 4 fore heddiw.

“Mae i weld yn gwneud yn gymharol dda, roedd yn eistedd i fyny ac yn cyfathrebu â staff meddygol.”

Cyfarfod

Bydd pwyllgor brys Llywodraeth San Steffan yn cwrdd ar dydd Iau i drafod y mesurau sydd mewn grym i leihau lleddiad y feirws, ac i adolygu’r data gwyddonol.

Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Tramor, sydd wrth y llyw tra bod Boris Johnson yn yr ysbyty, felly fe fydd cadeirio’r cyfarfod.