Nadine Marshall, mam Conner Marshall a gafodd ei lofruddio ym Mhorthcawl, yw ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad Comisiynydd Heddlu’r De.
Mae’r etholiad wedi’i ohirio tan y flwyddyn nesaf oherwydd coronavirus.
Mae hi’n ymuno â’r Comisynydd presennol Alun Michael (Llafur) a Michael Alfred Baker (Annibynnol).
Mae disgwyl iddi ymgyrchu dros ddatganoli’r cyfrifoldeb am blismona i Gymru ar ôl trechu’r Cynghorydd Dennis Clarke o’r Barri am yr ymgeisyddiaeth.
Cafodd Conner Marshall ei guro i farwolaeth ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.
Roedd ei lofrudd, David Braddon, ar drwydded ar y pryd, ac fe gafodd ei garcharu am oes am yr ymosodiad.
‘Bywyd mewn persbectif’
“Mae marwolaeth Conner wedi rhoi bywyd mewn persbectif i fi a’m teulu,” meddai Nadine Marshall mewn datganiad.
“Dw i’n llwyr gefnogi gohirio’r etholiad tan y flwyddyn nesaf gan mai iechyd a lles pobol ddylai fod yn brif ystyriaeth bob amser.
“Mae’n fraint fawr cael fy newis gan aelodau Plaid Cymru yn ne Cymru.
“Dw i ddim yn wleidydd nodweddiadol ond yr hyn mae pobol ei eisiau yw ymgeisydd gyda dealltwriaeth yn y byd go iawn o blismona a thorcyfraith, sut gallwn ni gefnogi dioddefwyr, cosbi troseddwyr difrifol tra’n pwysleisio pwysigrwydd adfer.
“Dw i’n teimlo fy mod i mewn sefyllfa unigryw i wneud hynny, a dw i’n edrych ymlaen at ymgyrchu dros y misoedd i ddod.
‘Ysbrydoliaeth’
Mae Leanne Wood wedi croesawu’r newyddion am ymgeisyddiaeth Nadine Marshall.
“Mae dewrder, urddas a gwytnwch Nadine yn destun ysbrydoliaeth i bawb sy’n cyfarfod â hi,” meddai llefarydd cyfiawnder Plaid Cymru.
“Mae dirfawr angen rhagor o ferched yn rheng flaen gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac alla i ddim meddwl am neb gwell na Nadine i lenwi’r swydd hon.
“Mae ganddi brofiad personol o wendidau difrifol ein system gyfiawnder ac mae hi’n lladmerydd cryf dros gadw ein gwasanaethau prawf yn nwylo’r cyhoedd a sicrhau bod Cymru’n cael rheolaeth lawn dros blismona.”