Mae awdurdodau Prydain yn ceisio dod o hyd i 2,000 o bobol sydd wedi teithio o ddinas Wuhan yn Tsieina i wledydd Prydain yn ystod yr wythnosau diwethaf.Mae’r Adran Iechyd yn awyddus i barhau i gynnal profion ar gyfer firws.

Mae nifer o brofion negyddol eisoes wedi’u cynnal yng Ngogledd Iwerddon, ond mae tri achos erbyn hyn yn Ffrainc.

Y tebygolrwydd, yn ôl yr awdurdodau, yw fod rhagor o achosion ar y gorwel yng ngwledydd Prydain.

Mae 41 o bobol eisoes wedi marw yn Tsieina, yn y ddinas sydd â chysylltiadau hanesyddol a chyfredol ag Abertawe, dinas mebyd sylfaenydd cryn dipyn o’r ddinas, Griffith John, oedd yn genhadwr ac efengylwr.

Camau

Bydd gwleidyddion yn San Steffan yn cwrdd dros y dyddiau nesaf i gynllunio’u hymateb i’r firws.

Bydd clinigwyr ychwanegol ar gael ym maes awyr Heathrow er mwyn cefnogi teithwyr wrth iddyn nhw gyrraedd, gyda nifer eisoes yn cefnogi teithwyr ym mhob maes awyr arall yng ngwledydd Prydain erbyn hyn hefyd.

Ond fydd teithwyr ddim yn gorfod cael profion yn awtomatig gan y gallai hynny gymryd cryn amser.

Mae 36 miliwn o bobol wedi’u hatal rhag teithio yn Tsieina, ac mae ysbytai dros dro wedi’u codi er mwyn ymateb i achosion.

Mae nifer o ddathliadau cenedlaethol wedi’u canslo wrth i’r awdurdodau geisio mynd i’r afael â’r firws.

Dinas Wuhan sy’n cysylltu’r holl achosion sydd wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn.