Mae llysgennad Prydain yn Iran yn dweud ei fod e wedi bod mewn digwyddiad i gofio am y bobol fu farw mewn damwain awyr pan gafodd ei arestio yn dilyn protestiadau.

Mae Rob Macaire wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i ddiolch am y gefnogaeth ers iddo gael ei arestio yn Tehran ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 11).

Ac mae’n dweud y gall “gadarnhau” nad oedd e’n “cymryd rhan mewn unrhyw brotestiadau”.

Yn hytrach, roedd e mewn gwylnos er cof am feirw trasiedi awyr #PS752, lle cafodd 176 o bobol eu lladd.

“Mae arestio diplomyddion ym mhob gwlad, wrth gwrs, yn anghyfreithlon,” meddai.

Ymateb Llywodraeth Prydain

Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, yn rhybuddio Iran eu bod mewn perygl o ddod yn “parïa” yn dilyn arestio’r llysgennad.

Mae’n cyhuddo Iran o dorri cyfreithiau rhyngwladol wrth arestio’r llysgennad, gan ddweud bod y wlad mewn perygl o gael ei hynysu’n wleidyddol ac yn economaidd oni bai ei bod yn cadw at gyfreithiau rhyngwladol.
Fe fu cyfres o brotestiadau ar draws y wlad ar ôl i luoedd Iran saethu’r awyren i lawr.

Fe wnaeth y digwyddiad y bu Rob Macaire ynddo droi’n brotest yn erbyn y llywodraeth o fewn dim o dro, ond mae’n dweud iddo adael bryd hynny a chael ei arestio’n ddiweddarach.