Mae heddiw’n ddiwrnod pwysig a hanesyddol i’r iaith Wyddeleg ac i gydnabyddiaeth o hunaniaeth Wyddelig yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl llywydd Sinn Fein.

Dywedodd Mary Lou McDonald fod y gydnabyddiaeth swyddogol i’r Wyddeleg sy’n rhan o’r cytundeb gwleidyddol i adfer llywodraeth yn Stormont yn gam pwysig ymlaen.

“Gall ymgyrchwyr dros yr Wyddeleg lawenhau bod hon yn foment hanesyddol oherwydd mae gennym gydnabyddiaeth swyddogol am y tro cyntaf,” meddai.

“Dylai pawb sy’n credu mewn amrywiaeth a pharch ledled ynys Iwerddon ystyried hyn fel rhywbeth cadarnhaol.

“Mae llawer mwy o waith i’w wneud a dw i’n disgwyl y bydd ymgyrchwyr dros y Wyddeleg yn dal i bwyso am gynnydd, a dw i’n eu hannog nhw i wneud hynny.”

Ymateb ymgyrchwyr iaith

Er yn croesawu’r datblygiad, dywed y rhwydwaith o ymgyrchwyr dros adfer yr Wyddeleg yng ngogledd Iwerddon, An Dream Gearg, nad yw’r cynigion yn mynd yn ddigon pell.

Mewn datganiad, dywed yr ymgyrch:

“Mae’n gychwyn ac yn gam ymlaen ond nid yw’n cyflawni ein nod. Roedden ni’n ymgyrchu am ddeddf seiliedig ar hawliau, tebyg i’r hyn sydd yng Nghymru a Gweriniaeth Iwerddon.

“Mae ein cymuned yn deall yn iawn y bydd ein hymgyrch yn parhau yn y dyddiau, wythnosau a misoedd o’n blaenau.

“Rydym hefyd yn croesawu pob cyllid ychwanegol sy’n cael ei addo i’n cymuned drwy strategaeth y Wyddeleg – ac mae’n rhaid i hyn gyfateb i anghenion ein cymuned a’r twf cynyddol am adnoddau digonol.

“Rhaid i’r dyddiau o ymosodiadau ar ein cymuned, gan y rheini mewn grym, fod yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol bellach. Rydym yn benderfynol o symud allan o’r ymylon ac i oleuni dyfodol tecach a blaengar.”