Mae dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd ar Ddydd Nadolig wedi cael ei enwi.

Bu farw Darran Peter Fellowes, oedd yn 48 oed ac yn dod o Sgiwen, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Toyota Aygo du a VW Beetle coch am oddeutu 5 o’r gloch ar Ddydd Nadolig.

Mae’n gadael ei fam Alma, ei fam-yng-nghyfraith Marilyn, ei lys-chwaer Jacqueline, ei wraig Donna a’u meibion Thomas a Jack.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed sut roedd y Toyota Aygo yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Teyrnged

“Fe fu Donna a Darran yn gwpwl er pan oedden nhw’n 19 oed, ac maen nhw wedi byw yn ardal Llansawel a Sgiwen erioed,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd Darran yn ddyn teulu cariadus ac yn rhan o deulu agos.

“Byddai wrth ei fodd gyda’i ddau fab, pa un a oedd yn eu gwylio nhw’n chwarae rygbi neu’n eu helpu i drwsio un o’u cerbydau.

“Roedd Darran wedi’i gyflogi fel rheolwr cynnal a chadw gyda Premier Forecourts and Construction Ltd.

“Drwy gydol yr wythnos, byddai’n aml yn gweithio o amgylch y wlad fel rheolwr cynnal a chadw gyda Premier Forecourts and Construction Ltd.

“Drwy gydol yr wythnos, fe fyddai’n aml yn gweithio o amgylch y wlad mewn amryw o leoliadau cyn mynd adref a threulio amser gyda’i deulu yr oedd yn ei garu.

“Roedd Darran wrth ei fodd gyda DIY a saernïaeth a helpu ei feibion i drwsio’u ceir.

“Roedd e’n byw bywyd i’r eithaf ac fe fydd ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn gweld ei eisiau’n fawr iawn.”