Mae Onwy Gower, merch 10 oed sy’n ddisgybl blwyddyn 6 yn Ysgol Treganna, wedi cyhoeddi llyfr am adar, ac mae’n bosib mai hi yw’r person ieuengaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg.

Gwelodd Onwy fwlch yn y farchnad o ran llyfrau natur i blant, ac felly mi aeth ati i ysgrifennu ei llyfr ei hun, sy’n cynnwys ffeithiau a darluniau o adar.

Mae Llyfr Adar Mawr y Plant yn gyfrol ffeithiol am 50 o adar sydd i’w gweld yng Nghymru gyda ffeithiau diddorol am bob un.

‘Dydy oedolion ddim yn deall’

“Roeddwn am ysgrifennu llyfr byddai’n apelio i blant, oherwydd dydy oedolion ddim yn deall yn hollol beth rydyn ni’n mwynhau darllen a pha ffeithiau rydyn ni am wybod!” meddai Onwy Gower.

Mae gan bob aderyn ddwy dudalen o luniau, gan gynnwys ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu’n arbennig ar gyfer y gyfrol gan yr artist o Ogledd Cymru, Ffion Gwyn.

Mae yna ffeithiau hefyd fel maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab a geirfa.

Mae’n cynnwys pennill am bob aderyn, rhai wedi’u hysgrifennu gan Onwy a’i thad ac eraill sy’n bodoli eisoes gan feirdd fel T. Llew Jones.

“Dechreuais wylio adar pan ges i fy minociwlars cyntaf yn 2016, ac ers hynny rwyf hefyd wedi derbyn telesgop gwych yn anrheg gan Graham, gŵr Llio Rhydderch, y delynores,” meddai Onwy wedyn.

“Rwy’n mynd i wylio adar gyda fy nhad, yn enwedig ym Mhenclacwydd ger Llanelli, sef fy hoff le i fynd i edrych ar hwyaid a gwyddau, ac adar eraill sy’n hoffi byw yn y dŵr.”