Rhodri ab Owen
Rhodri ab Owen o Positif Politics sy’n edrych nôl ar gyfraniad Caerwyn Roderick i’r Blaid Lafur a datganoli

Wrth edrych yn ôl ar gyfraniad y Blaid Lafur yng Nghymru yn ystod ymgyrch y refferendwm ar ddatganoli ym 1979, fe gofiwn gan amlaf am wrthwynebiad ffyrning chwech o Aelodau Seneddol y blaid – “the gang of six” – a oedd yn cynnwys Neil Kinnock a Leo Abse. Gweithiodd y rhain yn ddiflino er mwyn sicrhau na fyddai Cynulliad Cenedlaethol i Gymru yn y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd.

Cafodd y datganolwyr grasfa ar Ddydd Gwyl Dewi 1979, gyda Chymru’n pleidleisio 4 i 1 yn erbyn y Cynulliad, yn rhannol oherwydd natur rhanedig y Blaid Lafur ar y pwnc a’r gelyniaeth a deimlir o fewn Llafur tuag at sefydlu unrhyw gorff etholedig i Gymru.

Cafwyd eraill ar adain cenedlaetholgar Llafur a weithiodd yn galed yn ystod yr ymgyrch dros sefydlu’r Cynulliad yn 1979. Er ei fod o blaid pleidlais ‘Ie’ beirniadwyd John Morris, oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn Aelod Seneddol Aberafan, yn llym am ei ddiffyg brwdfrydedd yn ystod yr ymgyrch gan rai o du Blaid Cymru. Ar y llaw arall, un aelod a chafodd ganmoliaeth gan y Cenedlaetholwyr oedd Ysgifennydd Seneddol Michael Foot, Caerwyn Roderick.

Cefnogaeth gadarn

Brodor o Gwm Tawe oedd Caerwyn Roderick a chafodd ei fagu yn un o dri o frodyr yn Ystradgynlais. Cafodd ei drwytho yn niwylliant Cymreig a Chymraeg o oed cynnar iawn, gyda’i deulu yn flaenllaw yng Nghapel Bedyddwyr Ainon, Ystradgynlais.

Dewisiwyd ef i olynu Tudor Watkins, fel ymgeisydd Llafur Brycheiniog a Maesyfed yn Etholiad Cyffredinol 1970. Bu Tudor Watkins yn Aelod Seneddol ar yr etholaeth ers 1945, gan ei greu’n gadarnle i Lafur yn ystod y cyfnod hwn, gan sicrhau cefnogaeth gadarn cymunedau glofaol yn ne’r etholaeth – yn bennaf Ystradgynlais a Brynmawr. Cadwodd Caerwyn Roderick yr etholaeth yng ngorlan Llafur yn etholiad ’70 ac etholiadau ’74, gan sicrhau mwyafrifoedd parchus i Lafur.

Cyfarfod tyngedfennol

Yn   ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1978, tra’n Ysgrifennydd Seneddol i Michael Foot, roedd Caerwyn Roderick wedi trefnu cyfarfod tyngedfennol rhwng Gwynfor Evans, Dafydd Wigley, Michael Foot ac yntau yn ei gartref yn Rhiwbina, Caerdydd.

Ar y pryd roedd mwyafrif Llywodraeth Lafur James Callaghan yn fregus tu hwnt a thrwy sicrhau consesiynau, addawodd Plaid Cymru y diwrnod hwnnw na fyddant yn pleidleisio’n erbyn Llywodraeth Callaghan. Bu’n flaenllaw iawn yn ystod ymgyrch refferendwm ’79 a chydnabu Dafydd Wigley yn ei gyfrol Dal Ati mai Caerwyn Roderick oedd cefnogwyr mwyaf teyrngar datganoli yn y Blaid Lafur yn ystod y cyfnod hwn.

‘Ymladd yn frwd dros ddatganoli’

Daeth ei yrfa wleidyddol yn San Steffan i ben yn Etholiad Cyffredinol 1979. Ar ddiwedd y saithdegau, addaswyd ffiniau etholiadol yng Nghymru a diflanodd tref diwydiannol Brynmawr o etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.

Roedd y ‘sgrifen ar y mur’ fel petai i Caerwyn a gwyddai fod colli tref mor bleidiol iddo yn ergyd farwol i’w yrfa wleidyddol. Fe’i etholwyd yn ddiweddarach fel cynghorydd yng Nghaerdydd ond ni cheisiodd eto ddychwelyd i San Steffan.

Bu farw Caerwyn Roderick  yng Nghaerdydd ddydd Sul, wedi cyfnod o salwch, gan adael ei wraig Eirlys a thri o blant. Gŵr wnaeth ymladd yn frwd dros ddatganoli a’r Gymraeg. Gwleidydd na dderbyniodd y gydnabyddiaeth haeddianol iddo am ei rôl holl bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru yn y saithdegau.