Gŵyl y Fflam: codi ymwybyddiaeth o hanes Cymru

 
Gŵyl y fflam, Corwen - ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys

Gŵyl y fflam, Corwen – ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys

Llun: Gŵyl y fflam,

Mae gŵyl newydd yn cael ei chynnal yng Nghorwen dros y penwythnos (Medi 14 a 15), gyda’r bwriad o “ddeffro” ymwybyddiaeth mewn hanes Cymru.

Un o’r atyniadau blaenllaw yng Ngŵyl y Fflam yw ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys.

Mae ailgread o’r llys yn Sycharth wedi ei greu gan ddefnyddio technoleg rithwir a bydd yn rhoi cyfle i bobl grwydro llys y tywysog fel yr oedd yn ei gyfnod ef.

Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, maen nhw’n gobeithio gallu “bywiogi” tef Corwen.

Ymysg yr atyniadau eraill yng Ngŵyl y Fflam, bydd darlithoedd, darlleniadau, ac efelychiadau o frwydrau canoloesol.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones