Gofidion am ddiogelwch aelodau clwb LHDT yng Nghaernarfon

Mae aelodau o glwb LHDT (Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol) sy’n cyfarfod yng Nghaernarfon wedi cael eu herio a’u cam-drin gan griw o bobl ifanc.

Yn ôl Lee Duggan, rheolwr tîm Gisda, sy’n gweithio ar ran pobol ifanc a’r di-gartref yng Nghaernarfon, mae’r nifer o achosion o herio a cham-drin wedi cynyddu yn ddiweddar.

Mae gan y clwb tua 165 o aelodau.

Dywed Lee Duggan: “Mae o’n broblem ddiwylliannol sydd wedi cael ei gydnabod gan y swyddog cymdeithasol yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd. Yr un grŵp o bobl ifanc sydd wrthi, ac maen nhw’n targedu aelodau o’n clwb ni.”

Aelodau ddim yn teimlo’n saff

Dyw aelodau’r clwb yng Nghaernarfon sy’n teithio o lefydd mor bell â Phrestatyn, Caergybi, Conwy a Dolgellau er mwyn mynychu’r clwb ddim yn teimlo’n saff yn ôl Lee Duggan.

“Ar y funud, dyw ein haelodau ddim yn teimlo’n saff,” meddai. “Mae rhai o’n haelodau bellach yn amharod i fynychu’r grŵp gan nad ydynt yn teimlo’r saff. Dyma lle maen nhw’n fod i gael teimlo’n saff rhag unrhyw ragfarn ymysg eu cyfoedion ac mae o’n siom nad yw hynny yn wir bellach.”

Cyfarfod i newid agweddau

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Caffi Gisda heddiw am 4pm (Medi 11), er mwyn cael sgwrs am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd.

Ond honna Lee Duggan fod angen arweiniad gan ysgolion, rhieni a’r gymuned os yw agweddau am newid.

Dywed: “Dwi’n meddwl fod y neges angen dod o lefel uwch, mae angen i rieni, ysgolion ac arweinwyr ein cymunedau bwysleisio i’r bobl ifanc nad yw hyn yn dderbyniol. Does dim lle i anoddefgarwch tuag at bobl lebiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ein cymdeithas, ddylai hyn ddim bod yn digwydd.”