Mae nifer o ffoaduriaid wedi cael eu dal ar hyd arfordir Swydd Caint yn ôl gwylwyr y glannau.

Bu’r Llu Ffiniau hefyd yn ceisio achub nifer o bobol wrth iddyn nhw geisio croesi y Môr Udd.

Dywedodd Heddlu Swydd Caint fod amheuaeth y gallai wyth o bobol fod wedi dod allan o gwch dingi i’r lan yn Kingsdown fore heddiw ac roedd swyddogion mewnfudo yn ymchwilio.

Cafodd timau achub gwylwyr y glannau eu hanfon o Folkestone a Deal i roi cymorth gyda’r ymchwilio.

“Achub y rhai mewn trafferthion”

Dywedodd eu llefarydd fod y criwiau wedi cael eu hanfon i “achub y rhai mewn trafferthion gan ddod a nhw yn ddiogel i’r lan, ble y byddan nhw wedyn yn cael eu trosgwlyddo i’r gwasnaethau brys neu’r awdurdodau perthnasol.

Rhwng dydd Iau’r wythnos ddiwethaf a ddoe (dydd Gwener) roedd rhagor na  220 o ffoaduriaid, gan gynnwys o leiaf 40 o blant, wedi cael eu dal gan yr awdurdodau unai yn y Deyrnas Gyfunol neu Ffrainc.

Ddydd Gwener, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel fod angen gweithredu ar frys i daclo’r “creisis mewnfudo” yn y Môr Udd a bod cynlluniau yn cael eu gwneud “ar unwaith” i ddelio gyda’r broblem.