Bydd Cymru’n derbyn o leiaf £355m y flwyddyn am y tair blynedd nesaf o ganlyniad i addewid gan y Prif Weinidog Boris Johnson i wario ar ysgolion yn Lloegr.

Fe fydd ysgolion yn Lloegr yn derbyn cyfanswm o dros £7bn erbyn 2022-23, sy’n golygu y bydd Cymru hefyd yn derbyn rhagor o arian oherwydd Fformiwla Barnett.

Dydio ddim yn glir eto sut y bydd yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, ac mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi annog Llywodraeth Cymru i’w wario ar addysg hefyd.

Disgwyl i’r manylion llawn gael eu cyhoeddi

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddan nhw’n gwneud sylw ar gyhoeddiad Mr Johnson nes i’r manylion llawn gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Bydd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn arian oherwydd Fformiwla Barnett, sydd â’r nod o rannu cyfoeth o amgylch y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd Mr Cairns: “Fel prif flaenoriaeth i bobl ledled y DG, rydw i nawr yn annog Llywodraeth Cymru i wario’r arian newydd yma ar wella addysg, gan roi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru gyrraedd eu llawn botensial.

“Fel hyn gall gweledigaeth y Prif Weinidog fod o fudd i ddisgyblion a staff dysgu ar draws Cymru a’r DG.”

Ychwanegodd Mr Cairns: “Dyma’r “cynnydd mwyaf mewn gwariant ar addysg mewn cenhedlaeth”.