Mae myfyriwr 30 oed o Birmingham wedi’i gael yn euog o geisio lladd seiclwyr a phlismyn y tu allan i San Steffan.

Gyrrodd Salih Khater ei gar Ford Fiesta i mewn i dorf o bobol ger goleuadau y tu allan i’r Senedd ar Awst 14 y llynedd.

Fe aeth oddi yno i lawr lôn ddiogelwch a tharo bariau wrth i ddau blismon orfod neidio o’r ffordd.

Cafodd y digwyddiad ei recordio ar gamerâu cylch-cyfyng, ac fe gafodd y deunydd ei ddangos i’r llys.

Clywodd y llys ei fod e am greu niwed sylweddol, a’i bod yn “wyrth” na chafodd unrhyw un ei ladd.

Dywedodd yr erlyniad yn ystod yr achos fod ei weithredoedd yn “fwriadol ac wedi’u cynllunio ymlaen llaw”, a’i fod e wedi’i gymell gan resymau brawychol.

Ond wrth roi tystiolaeth, dywedodd y diffynnydd ei fod e’n chwilio am lysgenhadaeth Swdan pan aeth ar goll yn yr ardal, a’i fod wedi mynd i banig gan ei fod yn ceisio dychwelyd i’w famwlad er mwyn ymweld â’i fam oedd yn sâl.

Ar ôl deuddydd o bwyso a mesur, daeth y rheithgor i’r casgliad ei fod yn euog o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio.

Wnaeth e ddim ymateb wrth i’r dyfarniad gael ei gyhoeddi, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan Hydref 7 er mwyn i adroddiadau gael eu paratoi cyn ei ddedfrydu.

Yr ymosodiad

Cafodd Salih Khater ei eni yn Swdan, ac fe gafodd e loches yng ngwledydd Prydain yn 2010 ar ôl iddo honni ei fod e wedi cael ei arteithio.

Fisoedd cyn yr ymosodiad, roedd awgrym ei fod e’n dioddef o baranoia mewn perthynas ag awdurdodau gwledydd Prydain.

Roedd e wedi methu yn ei arholiadau yn y brifysgol, ac roedd wedi dechrau colli gwaith fel swyddog diogelwch.

Ar Fai 24 y llynedd, anfonodd e e-bost at Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, yn mynegi pryder am “ddigwyddiad” yn ymwneud â’r gwasanaethau cudd-wybodaeth.

Ar y diwrnod cyn yr ymosodiad, fe deithiodd e i Peterborough er mwyn gwneud cais ar frys am basbort, ond fe gafodd ei wrthod.

Teithiodd e o Birmingham i Lundain y noson honno, ac roedd tystiolaeth ei fod e wedi chwilio am dargedau posib ar ei ffôn symudol.

Cafodd ei weld ar gamerâu cylch-cyfyng yn cyrraedd San Steffan yn ddiweddarach, ac yn gyrru o amgylch yr ardal.

Parciodd ei gar wedyn ac aros am bedair awr a hanner yn Soho cyn dychwelyd i San Steffan, gan yrru o amgylch yr ardal eto cyn gyrru at y dorf ar gyflymdra o 32 milltir yr awr, gan orfodi dau blismon i neidio o’r ffordd.

Wrth i heddlu arfog ei dynnu o’i gar, fe gadarnhaodd ei fod e ar ei ben ei hun ond wnaeth e ddim cynnig eglurhad.