Mae arbenigwr ar alergeddau’n dweud bod noson dda o gwsg yn allweddol wrth geisio rheoli symtomau clefyd y gwair.

Yn ôl Max Wiseberg, mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod pobol sy’n cysgu am o leiaf saith awr bob nos yn gallu rheoli’r symtomau’n well na phobol sydd ond yn cael pump awr o gwsg. 

Ond y “cylch dieflig”, meddai, yw fod dioddefwyr yn ei chael yn anodd cysgu o ganlyniad i’r clefyd.

Ei gyngor i ddioddefwyr yw sicrhau bod ganddyn nhw batrwm rheolaidd o gwsg, sy’n cynnwys cael bath neu gawod cyn mynd i’r gwely.

Mae’n dweud hefyd fod ymolchi mewn cynnyrch organig cyn mynd i’r gwely yn gallu dal traean o’r paill sydd fel arfer yn cyrraedd y corff.

Ac mae paill, meddai, hefyd yn mynd yn sownd yn nillad y gwely ac felly, mae’n hanfodol eu newid yn rheolaidd ac i gadw anifeiliaid oddi ar y gwely rhag iddyn nhw gludo paill ar eu cyrff.

Ddylai dioddefwyr ddim bod allan yn yr haul fin nos, wrth i baill ddod yn ôl i lawr i lefel y ddaear wrth i’r awyr oeri.

A’i gyngor olaf yw cau ffenestri yn ystod y dydd a’r nos, a defnyddio ffiltr er mwyn glanhau’r awyr sy’n dod i mewn i’r tŷ.