Byddai Boris Johnson yn barod i aberthu miloedd o swyddi gweithgynhyrchu Cymreig er mwyn “gwireddu ei uchelgais ei hun”, yn ôl aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur.

Daw sylwadau Christina Rees, llefarydd Cymru y blaid yn San Steffan, ar ôl i Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, ddatgan ei gefnogaeth i’r cyn-Weinidog Tramor yn y ras i arwain y Blaid Geidwadol.

Yn ôl Ms Rees, byddai Brexit heb gytundeb – rhywbeth y mae Boris Johnson yn cadw meddwl agored amdano – yn drychinebus i economi Cymru.

Mae pryderon y gallai Brexit heb gytundeb ar Hydref 31 effeithio’n sylweddol ar ffermwyr Cymru drwy ostwng prisiau cig i lefel isel iawn.

“Sut allwch chi gyfiawnhau eich cefnogaeth i ymgeisydd i fod yn brif weinidog sy’n barod i aberthu miloedd o swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru i wireddu ei uchelgais personol ei hun?” oedd ei chwestiwn i Alun Cairns.

“Dw i’n siomedig eich bod chi’n ceisio tanseilio economi Cymru,” meddai Alun Cairns wrth ymateb.

“Doeddech chi yn fodlon cydnabod fod diweithdra wedi cyrraedd record o ran lefelau isel, fod gweithgarwch economaidd wedi cyrraedd record o ran lefelau uchel, fod allforion yn tyfu, fod gweithgynhyrchu’n llewyrchu, ac mae angen i chi gydnabod hynny.”

Ac fe gyhuddodd e Christina Rees ac eraill a bleidleisiodd yn erbyn y Cytundeb Ymadael o wneud y sefyllfa’n waeth drwy gynyddu’r ansicrwydd a’r tebygolrwydd o sicrhau Brexit heb gytundeb.

Ond mae Ms Rees yn mynnu na fyddai hi fyth am wanhau Cymru.

“Rwy’n falch o’m gwlad ac rwy’n falch o fod wedi cynrychioli Cymru droeon,” meddai’r fargyfreithwraig a chyn-chwaraewraig sboncen.

“Pan ydych chi’n gwisgo’r crys coch hwnnw, does dim byd tebyg iddo.

“O gofio eich cefnogaeth amlwg i Brexit heb gytundeb fel pris sy’n werth ei dalu am gadw eich swydd eich hun, beth, tybed, allwch chi ei ddweud wrth y bobol hynny yng Nghymru sy’n wynebu colli eu swyddi gweithgynhyrchu o ganlyniad i fethiant catastroffig eich Llywodraeth wrth ymdrin â thrafodaethau Brexit?”

“Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod gweithgynhyrchu’n gwneud yn dda yn economi Cymru, gyda 12,000 yn fwy o swyddi gweithgynhyrchu yn yr economi nag yr oedd yn ôl yn 2010,” meddai wrth ymateb eto.

Plaid Cymru’n beirniadu hefyd

Ac wrth iddi ychwanegu ei llais hithau at y ddadl, dywed AS Plaid Cymru dros Dwyfor-Meirionydd Liz Saville Roberts fod rhaid i Lywodraeth Prydain gymryd cyfrifoldeb am yr effaith fydd Brexit yn ei gael ar ffermwyr defaid yng Nghymru.

“Mae tariffau o 46% sydd yn cael eu cyflwyno ar Hydref 31 yn cyd-daro’n union â’r tymor pan ddaw wyn mynydd i’r farchnad i’w hallforio,” meddai, wrth wahodd Alun Cairns i gynnig eglurhad i ffermwyr.

“Roedd undebau amaeth yng Nghymru’n cefnogi’n gryf y cytundeb a gafwyd rhwng y Prif Weinidog a Chomisiwn Ewrop,” meddai Alun Cairns wrth ymateb, gan ei beirniadu hi am wrthwynebu’r cynllun Brexit.