O heddiw (Dydd Mercher, Mehefin 26) ymlaen fe fydd cosbau llymach i bobol sy’n cam-drîn anifeiliaid wrth i ddeddfwriaeth newydd gael ei gyflwyno. 

 

Fe fydd Bil Lles Anifeiliaid yn cael ei gyflwyno yn Senedd Gwledydd Prydain ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno iddo gael ei ddeddfu yng Nghymru a Lloegr. 

 

Mae’r bil newydd yn golygu bod y gall pobol sy’n cam-drîn anifeiliaid wynebu hyd at bum mlynedd o garchar.

 

Ar hyn o bryd chwech mis yw’r uchafswm, ac mae’r ddeddf newydd yn golygu mai hwn fydd un o’r cosbau llymaf yn Ewrop. 

 

“Adlewyrchiad o werthoedd”

 

Bydd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer yr agweddau hynny ar y Bil Lles Anifeiliaid sy’n berthnasol i Gymru.

 

“Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae’r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas,” meddai Lesley Griffiths. 

 

“Dylid amddiffyn anifeiliaid rhag poen, anaf, ofn a gofid a dylai’r rheini sy’n euog o achosi’r creulondeb mwyaf i anifeiliaid ddioddef cosbau llym.

 

“Rydym felly wedi penderfynu cytuno bod Llywodraeth y DU yn deddfu trwy Ddeddf ar gyfer Cymru a Lloegr, ac yn cyflwyno cynnydd i bum mlynedd o garchar. Bydd hyn yn anfon neges glir nad yw pobl yn goddef creulondeb i anifeiliaid.”