Bydd Tywysog Charles yng Nghymru i ddathlu hanner canmlwyddiant ei arwisgo’n Dywysog Cymru.
Digwyddodd hynny pan oedd yn 20 oed mewn seremoni liwgar yng Nghastell Caernarfon ar Orffennaf 1, 1969 a gafodd ei wrthwynebu gan lawer.
Yn ôl llefarydd ar ran Clarence House, bydd ei ymweliad e â’i wraig, Duges Cernyw, yn “gyfle i ddathlu’r ystod o elusennau, sefydliadau a chymunedau Cymreig y bu’r tywysog ynghlwm wrthyn nhw dros y pum degawd diwethaf”.

Ymweliadau

Ar ddydd Llun, Gorffennaf 1, fe fydd yn ymweld â chanolfan alw Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Nantgarw, ger Caerdydd, sy’n helpu 72,000 o bobol ifanc.
Ar yr un diwrnod, bydd Tywysog Charles yn ymweld â’r British Horse Loggers yng Nghoedwig Ty’n-y-Coed yn Llantrisant.
Ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 2, fe fydd yn ymweld â phencadlys Heddlu’r De ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd yn dathlu hanner canmlwyddiant y diwrnod hwnnw. Fe fydd hefyd yn mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Ddydd Mercher, Gorffennaf 3, fe fydd y ddau yn ymweld â Pharc Fictoria a Phafiliwn y Patti, fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe.
Byddant hefyd yn ymweld â Chapel y Tabernacl, Treforys, un o’r llefydd y bu’n ymweld ag e adeg yr arwisgiad.
Ddydd Iau, Gorffennaf 4, fe fydd y ddau yn ymweld ag ysgol gynradd ac Ystad Llanofer yn Nhredegar Newydd.
Wrth i’r wythnos ddirwyn i ben ar ddydd Gwener, Gorffennaf 5, fe fydd Tywysog Charles yn ymweld â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, ac Eglwys Mallwyd ym Machynlleth ar gyfer gwasanaeth Plygain.

Ar y diwrnod olaf byddant hefyd yn ymweld â Mart Dolgellau er mwyn lawnsio Rhaglen Gwytnwch Ffermydd Cronfa Wledig y Tywysog.

‘Balchder a llawenydd’

“Ers arwisgo Tywysog Cymru yn 1969, mae Ei Fawrhydi wedi bod yn llawn balchder a llawenydd wrth gefnogi’r elusennau a sefydliadau niferus sy’n gwneud gwaith allweddol yng Nghymru ar gyfer ei chymunedau ac i warchod a hybu bywyd a diwylliant Cymru,” meddai llefarydd ar ran Clarence House.