Mae adroddiad annibynnol sydd wedi’i gyhoeddi ugain mlynedd ers ei hagor yn dweud bod Stadiwm Principality wedi cyfrannu £2.75bn at economi Cymru.
Mae oddeutu 2,500 o swyddi llawn amser wedi’u cefnogi yng Nghaerdydd a Chymru bob blwyddyn ers ei hagor ar Fehefin 26, 1999, ychydig fisoedd cyn Cwpan Rygbi’r Byd, a’r diwrnod pan gurodd Cymru Dde Affrica yn y gêm gyntaf erioed yn y stadiwm.
Stadiwm Prinicipality oedd y stadiwm cyntaf yn y DU i fod â tho sy’n gallu agor a chau.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod ymwelwyr wedi cyfrannu £1.95bn at yr economi leol, a bod y stadiwm wedi cynyddu cyfartaledd swyddi blynyddol o ryw 1,000 ac yn cefnogi tua 10% o swyddi twristiaeth y brifddinas.

Cymhariaeth ariannol

Yn ôl adroddiad ariannol annibynnol tebyg a gafodd ei gyhoeddi yn 2007, roedd y stadiwm yn cyfrannu £105m y flwyddyn at yr economi, i fyny i £130m erbyn 2013. Erbyn hyn, £135m yw’r ffigwr hwnnw.

Roedd y cyfnod rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2018 yn arbennig o gryf, gyda gwariant y tu allan i’r stadiwm ond yn gysylltiedig â hi yn £125m, gydag 1.23m o docynnau’n cael eu gwerthu ar gyfer amryw ddigwyddiadau.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad er mwyn datblygu’r stadiwm ymhellach mae gwella cyfleusterau technoleg, canolfan dreftadaeth ar y safle, mynediad i westy moethus a gwella trafnidiaeth i mewn ac allan o’r stadiwm.
Yn y chwe blynedd ers yr adroddiad blaenorol, mae 4.14m o ymwelwyr wedi ymweld â’r stadiwm, gyda mwy na 60% ohonyn nhw’n gefnogwyr rygbi, ac oddeutu 20% yn ffans cerddoriaeth.

Y stadiwm yw prif atyniad twristaidd Cymru o bell ffordd, meddai’r adroddiad.

‘Lleoliad unigryw’

“Ugain mlynedd yn ôl, pan chwaraeodd Cymru gerbron torf rannol lawn i sicrhau’r fuddugoliaeth gyntaf erioed dros Dde Affrica yn hanes ein gêm, roedden ni i gyd yn gwybod fod gennym ddyfodol arbennig iawn o’n blaenau yn cae cenedlaethol newydd ac eiconig,” meddai Gareth Davies, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, sydd hefyd yn gadeirydd Bwrdd y Stadiwm.

“Mae ein lleoliad unigryw yng nghanol y ddinas yn golygu ôl troed llai na’r rhan fwyaf o gaeau tebyg o amgylch y byd, felly mae’r cefnogwyr bob amser yn nes at y cae ac yn elwa ar olygfeydd gwell lle bynnag y byddan nhw’n eistedd.

Dyma un o’r rhesymau pam ein bod ni mor uchel o safbwynt boddhad cwsmeriaid