Mae’r heddlu’n apelio yn dilyn dau ddigwyddiad sydd wedi gadael dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Bu’n rhaid cau ffordd yr A470 brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 25) yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi ceisio neidio oddi ar bont am oddeutu 3.40yp cyn gadael ardal Abercynon mewn fan.

Yn fuan wedyn, roedd adroddiadau bod dyn wedi ceisio gadael cerbyd oedd yn symud ar yr A470 yn ardal Ffynnon Taf.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.