Mae Richard Ratcliffe, gŵr Nazanin Zaghari-Ratcliffe, wedi beirniadu Boris Johnson am y ffordd y gwnaeth e ymdrin â’i hachos pan oedd e’n Ysgrifennydd Tramor.
Mae’r ddau yn ymprydio yn sgil y penderfyniad i’w chadw yn y ddalfa yn Iran ar amheuaeth o ysbïo.
Mae’n dweud ei fod e am “uchelseinio’i neges” a chael ymateb gan Iran.
“Mae’n amlwg iddo wneud camgymeriad a’i fod e wedi ceisio’i gywiro, ac fe wnaeth e addewid nad oedd modd iddo ei gadw,” meddai Richard Ratcliffe am Boris Johnson, y ffefryn i fod yn brif weinidog nesaf Prydain.
Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, lle gwnaeth e feirniadu sylw Boris Johnson yn 2017 mai newyddiadurwraig oedd yn hyfforddi newyddiadurwyr yn Iran oedd Nazanin Zaghari-Ratcliffe.
“Ar adegau, dw i wedi digio wrtho fe am hynny, ac mae yna ddarnau y gwnes i ddigio wrtho amdanyn nhw.”
Mae’r teulu bellach yn pwyso ar Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Tramor presennol, i’w helpu.
Mae gan y cwpl ferch fach bump oed, Gabriella, sydd heb weld ei mam ers iddi gael ei harestio yn 2016.