Mae dau gynghorydd o Gymru yn dweud mai toriadau’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd ar fai am y cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru.

Roedden nhw’n ymateb i ymchwil a wnaed gan y rhwydwaith o elusennau, Dileu Tlodi Plant a ddatgelodd fod 206,173 (29.3%) o blant Cymru yn byw mewn tlodi yn 2018, sef cynnydd o 1% ers y flwyddyn flaenorol ar ôl ystyried costau tai.

Mae hynny’n golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gweld cynnydd yng nghanran y plant sy’n byw mewn tlodi.

Ymhlith yr ardaloedd gwaethaf yng Nghymru o ran tlodi plant oedd ward Penrhiwceibr (49%) yng Nghwm Cynon, yn ogystal â wardiau Cartrefle (48%), Queensway (48%) a Wynnstay (48%) yn Wrecsam.

Wrecsam – tlodi plant yn “dorcalonnus”

Yn ôl y Cynghorydd Carrie Harper, sy’n cynrychioli ward Queensway, mae’r ffigyrau yn “dorcalonnus”, er nad ydyn nhw’n fawr o syndod iddi.

“Rydyn ni’n gwybod ers cyfnod hir bod ganddon ni lefelau uchel o dlodi a thlodi plant, ond mae’r ffaith ei fod ar gynnydd yn bryder,” meddai’r Cynghorydd Harper.

“Dw i’n gwybod hefyd beth yw’r achos, gan fy mod i’n gweithio’n agos gyda phobol sydd wedi cael eu rhoi ar Gredyd Cynhwysol a dw i wedi gweld yr angen am fanciau bwyd yn cynyddu . . .

“Mae fel byw yng nghyfnod Oes Fictoria,” meddai, “ac oni bai eich bod chi’n gweithio ar lawr gwlad, dydych chi ddim yn ei weld e.”

Penrhiwceibar – “tipyn o waith cymunedol”

Yr un yw’r gŵyn mewn rhan arall o Gymru. Dywedodd y Cynghorydd Adam Fox mai’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sy’n bennaf gyfrifol am y tlodi yn ei ward yn Penrhiwceibr.

Ond mae’n ychwanegu bod yna lawer o waith gan wirfoddolwyr yn digwydd o fewn y gymuned, ac mae’r cynghorydd ei hun yn weithgar gyda’r prosiect ‘Fed and Fit’, sy’n cynnal gweithgareddau i blant a phobol ifanc yr ardal yn ystod gwyliau’r ysgol.

“Mae’r gwaith sy’n cael ei gynnal o fewn y gymuned yn anhygoel,” meddai’r Cynghorydd Fox. “Mae yna dipyn o dlodi yma – does dim amheuaeth am hynny – ond mae yna diyn o waith cymunedol yn digwydd hefyd.”

Galw am strategaeth newydd

Mae Dileu Tlodi Plant, sy’n glymblaid rhwng gwahanol elusennau fel Oxfam Cymru a Phlant yng Nghymru, yn galw ar wleidyddion Cymru i wneud addewidion ynghylch tlodi plant ar drothwy etholiad y Cynulliad yn 2021.

Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i amlinellu strategaeth “gredadwy ac arloesol” ar gyfer lleihau nifer y plant sy’n byw mewn tlodi.

Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru nad yw’r ffigyrau yn “syndod”, a bod y cynnydd yn “ganlyniad uniongyrchol i ddiwygiadau treth a lles” Llywodraeth Prydain.

“Rydym yn cymryd camau ymarferol i fynd i’r afael â thlodi drwy helpu pobl i gadw arian yn eu pocedi, gan gynnwys mentrau i helpu pobl i dalu eu treth gyngor a phrydau ysgol am ddim i blant mewn cartrefi incwm isel,” meddai llefarydd.

“Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i ailgynllunio’r rhaglenni presennol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau plant sy’n byw mewn tlodi. Mae hefyd wedi penodi Lesley Griffiths yn Weinidog arweiniol i sicrhau bod proses cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael yr effaith fwyaf bosibl wrth fynd i’r afael â thlodi.”

Yn ôl Llywodraeth Prydain, maen nhw’n ceisio cefnogi teuluoedd sy’n gweithio, ac mae “plant sy’n cael magwraeth ar aelwyd sy’n gweithio bum gwaith yn llai tebygol o fod mewn tlodi cymharol,” meddent.

“Ond rydym yn cydnabod bod angen cefnogaeth ar rai teuluoedd,” meddai llefarydd. “Dyna pam rydyn ni’n gwario £95bn y flwyddyn ar fudd-daliadau oedran gweithio a darparu prydiau am ddim mewn ysgolion i fwy na 1m o blant sydd o dan anfantais, a hynny er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd.”