Mae Aelod Seneddol newydd y Blaid Lafur yng Ngorllewin Casnewydd yn dechrau ar ei swydd newydd yn San Steffan heddiw (Dydd Llun, Ebrill 8).

Llwyddodd Ruth Jones i gadw cyn-sedd y diweddar Paul Flynn ar ôl yr isetholiad ddydd Iau diwethaf (Ebrill 4).

Fe sicrhaodd y Blaid Lafur 9,308 o bleidleisiau, sef mwyafrif o 1,951 dros ymgeisydd y Ceidwadwyr, Matthew Evans (7,357).

Mae’r mwyafrif hwn tipyn yn llai na’r 5,658 a oedd gan y diweddar Paul Flynn ers yr etholiad cyffredinol yn 2017.

“Sefyll dros y bobol”

“Nawr eich bod chi wedi fy ethol i’ch cynrychioli yn San Steffan, mi wnaf yn union beth rwyf wedi gado ar bob un stepen drws,” meddai Ruth Jones wrth bobol Casnewydd wrth siarad ar ôl canlyniad yr is etholiad.

“Fe fyddwn yn sefyll dros y bobol, y swyddi a’r economi yng Ngorllewin Casnewydd.”

“Pwy a ŵyr peth fydd yn dod yn ystod y dyddiau, misoedd a’r blynyddoedd nesaf ond beth rwyf yn gwybod yw bod pobol wedi cael digon ar ôl degawd o lymder,” meddai.

Fe fydd Ruth Jones, sydd yn gwrthwynebu Brexit, nawr yn ymuno gydag Aelodau Seneddol gweddill gwledydd Prydain yn San Steffan ar gyfer camau nesaf y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.