Mae trydydd llanc wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i fachgen 16 oed gael ei drywannu yn Birmingham.
Cafodd y llanc 17 oed o’r ddinas ei arestio mewn tŷ yn Rugby nos Wener mewn cysylltiad â’r farwolaeth.
Bu farw Abdullah Muhammad yn y fan a’r lle yn Small Heath ar ol cael ei anafu tua 8yh ar 20 Chwefror.
Fe oedd yr ail o dri pherson ifanc yn eu harddegau fu farw ar ol cael eu trywanu mewn digwyddiadau ar wahân yn Birmingham dros gyfnod o bythefnos.
Fe fydd y llanc 17 oed, na ellir cyhoeddi ei enw, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Birmingham ddydd Llun ar gyhuddiad o lofruddio Abdullah Muhammad a dau gyhuddiad o ddwyn.
Mae disgwyl i Amari Robinson, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Amari Tullock, 20, o Birmingham, hefyd ymddangos gerbron yr un llys wedi’i gyhuddo o’r un troseddau.
Fe fu Demille Innis, 19, o Walsall gerbron ynadon ddydd Iau ar gyhuddiad o lofruddio, dau gyhuddiad o ddwyn ac o fod ag arf yn ei feddiant.
Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Birmingham ddydd Gwener.