Mae Eglwys Lloegr am roi mwy o gefnogaeth i daclo hiliaeth a gwahaniaethu wedi’i anelu tuag at y gymuned deithiol.

Heddiw fe bleidleisiodd eu Synod Cyffredinol o blaid cynnig i siarad allan yn gyhoeddus yn erbyn hiliaeth a throseddau casineb wedi’i hanelu tuag at Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig a Roma.

Pleidleisiodd y Synod gyda mwyafrif oedd bron yn unfrydol gyda 265 o blaid a dim ond un yn erbyn.

Dywedodd Esgop Chelmsford, Stephen Cottrell – a gynigodd y cynnig: “Mae’r Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb wedi canfod fod hiliaeth a gwahaniaethu tuag at Sipsiwn a Theithwyr yn gyffredin, yn aml yn agored ac yn cael ei weld wedi’i gyfiawnhau.

“Mae’r heddlu wedi dweud fod rhagfarn yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr yn endemig yn ein cymdeithas, ac yn aml wedi ei danio gan stereoteipiau yn y cyfryngau.”