Mae Heddlu’r Gogledd newydd gadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i Lewis Jarvis o Wrecsam wedi iddo fod ar goll.

Mewn neges trydar yn y munudau diwethaf, dywedodd yr heddlu eu bod nhw eisiau diolch i’r cyhoedd am rannu eu hapêl am wybodaeth i geisio dod o hyd i’r dyn ifanc.

Yn gynharach dywedodd yr heddlu fod Lewis Jarvis wedi cael ei weld y tro diwethaf am 4.40 y bore yma (Dydd Sadwrn) yn Wrecsam.