Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i afael a’r broblem enfawr sy’n ymwneud â’r ffordd mae perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi.

Dyma yw barn Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts – sy’n adlewyrchu’r ffaith fod bron i wyth gant o berchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd yn cael eu heithrio rhag talu treth cyngor a busnes.

Mae hyn yn digwydd ar adeg pan fo 2,000 o deuluoedd ar y gofrestr aros am dai yng Ngwynedd, gan gael effaith estynedig ar deuluoedd ifanc yr ardal,

Daw’r alwad yn dilyn ymdrech Siân Gwenllian, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn barod i galw ar adolygiad brys i fynd i afael a pherchnogion ail gartrefi sy’n manteisio ar y system.

“Rhwbio halen yn y briw”

Ar hyn o bryd mae 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, sef y nifer fwyaf o gymharu ag unrhyw sir arall yng Nghymru.

Yn ôl Siân Gwenllian, “ychydig iawn” o’r perchnogion yma sy’n cyfrannu ar yr economi lleol.

“Mae wyth gant o berchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd yn osgoi talu trethi trwy fanteisio ar fwlch cyfreithiol a chofrestru eu heiddo fel busnes,” esboniodd Siân Gwenllian.

“I rwbio halen yn y briw, maent hefyd wedi’u heithrio rhag talu trethi busnes o ganlyniad i anghysondebau yn y system.”

Er mwyn fod yn gymwys fel busnes, mae’n rhaid i eiddo fod ar gael i’w osod am 140 diwrnod y flwyddyn ond “nid yw’n glir sut mae hyn yn cael ei fonitro” yn ôl yr Aelod Cynulliad Arfon.

“Rwy’n clywed straeon o berchnogion yn cymryd mantais o’r rheol hon a gosod yr eiddo i deulu neu ffrindiau.”

“Rhwystredig i bobol ifanc”

Yn ôl y ddwy wleidydd o Blaid Cymru, mae hyn yn cael effaith estynedig ar ddyfodol pobol ifanc yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â’r cymunedau ei hunain.

“Rwy’n gwybod yn iawn pa mor rhwystredig yw hi i bobl ifanc sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad dai yn eu cymunedau eu hunain,” meddai Liz Saville Roberts.

‘Mae ail gartrefi yn cynyddu prisiau tai tu hwnt i gyrraedd cyflogau lleol. Os bydd y patrwm yma yn parhau, yna bydd mwy o deuluoedd a phobl ifanc yn cael eu prisio allan o’u cymunedau gan arwain at oblygiadau niweidiol iawn i fywyd cymunedol.’

“Mae angen rhoi terfyn arno,” meddai Siân Gwenllian.

“Tra bod yr arfer anfoesol yma yn cael rhwydd hynt i barhau, mae gennyf etholwyr sy’n dod i fy ngweld yn erfyn i gael eu symud i dai cymdeithasol o eiddo sy’n gwbl anaddas,” ychwanegodd.

“Nid yw prynu tŷ yn opsiwn i sawl un sydd ar y gofrestr aros, ac mewn nifer o ardaloedd, mae’r ganran uchel o ail gartrefi hyd yn oed wedi gwthio prisiau tai tu hwnt i gyrraedd teuluoedd lleol sydd ar gyflogau cyfartalog.”