Mae lluoedd Israel wedi cadarnhau eu bod wedi ymosod ar dargedau milwrol Iran yn Syria, oriau’n unig ar ôl cynnal cyrch ger Maes Awyr Rhyngwladol Damascus.

Mewn datganiad dywedodd lluoedd Israel eu bod nhw wedi rhybuddio Lluoedd Arfog Syria rhag ceisio ymosod ar luoedd neu diriogaeth Israel.

Cyn hyn, mae Israel wedi ymatal rhag gwneud cyhoeddiadau am eu cyrchoedd yn Syria er mwyn osgoi cael eu tynnu mewn hyd yn oed yn fwy i’r rhyfel cartref yno.

Dywedodd lluoedd Israel eu bod nhw wedi cynnal cyrchoedd o’r awyr toc wedi 1yb (amser lleol) ond bod lluoedd Syria wedi dinistrio’r rhan fwyaf o’r taflegrau awyr cyn iddyn nhw gyrraedd eu targedau.

Mae Syria wedi ymateb trwy ddweud eu bod nhw wedi “atal” ymosodiad ger maes awyr Damascus a’u bod wedi dinistrio pump o’r chwech o daflegrau.

Roedd Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi cadarnhau yn ddiweddar bod Israel wedi targedu cannoedd o safleoedd yn Syria sy’n gysylltiedig ag Iran a grŵp milwriaethol Libanus Hezbollah.

Mae Iran a Hezbollah yn cefnogi Llywodraeth Syria yn y rhyfel cartref, sydd wedi para am bron i wyth mlynedd.