Mae disgyblion yn eu harddegau yng Nghymru yn derbyn canlyniadau gwaeth na disgyblion o’r un oedran yn Lloegr, yn ôl ymchwil newydd.

Mae data gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) yn dangos bod perfformiadau rhyngwladol a TGAU yn tanlinellu’r ffaith bod disgyblion yng Nghymru yn perfformio’n waeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf o gymharu â’r rheiny yn Lloegr.

Mae hefyd yn dangos bod y bwlch rhwng disgyblion sydd o dan anfantais a disgyblion sydd ddim, yn fwy yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

Ond o ran disgyblion tair, pump ac 11 oed, mae’r adroddiad yn dangos eu bod nhw’n perfformio’r un fath â disgyblion yn Lloegr.

Y ffeithiau

Cyn i Loegr gyflwyno newidiadau i’r gyfundrefn TGAU yn 2012-13, roedd tua 10% yn llai o blant yn cyrraedd gradd C mewn Saesneg a Mathemateg yng Nghymru.

Ar ôl i Loegr gyflwyno mesurau llymach i TGAU yn 2014 wedyn, a wnaeth ostwng lefel y perfformiad yn gyffredinol, roedd Cymru yn dal i dangyflawni.

Yn ôl yr EPI, mae disgyblion 15 oed yng Nghymru hefyd yn tangyflawni mewn Mathemateg a darllen na chyfartaledd Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae Lloegr, o gymharu, yn cyrraedd y cyfartaledd hwnnw.

Rhesymau?

Yn ôl adroddiad, mae’n bosib mai’r lefelau uwch o dlodi yng Nghymru sy’n gyfrifol am beth o’r tangyflawni, ond mae’r bwlch cyrhaeddiad mawr rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn awgrymu nad yw hyn yn brif ffactor.

Mae gan Loegr mwy o ddisgyblion sy’n perthyn i grwpiau ethnig lleiafrifol, meddai’r adroddiad ymhellach, sy’n tueddu i berfformio’n well ar lefel TGAU. Mae 30% yn Lloegr, o gymharu â 12% yng Nghymru.

Ond wrth i ddiwygiadau i gyfundrefnau arholi yng Nghymru a Lloegr ei gwneud hi’n anos cymharu perfformiadau, mae’r EPI yn dweud bod angen i reoleiddwyr barhau i sicrhau bod sefydliadau a chyflogwyr yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf.

Fe all disgyblion gael eu gwahaniaethu o ganlyniad i ddiffyg cyfathrebu clir am y newidiadau, medden nhw.

‘Diffyg ariannu’

Yn ôl Tim Pratt o Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCL), mae’n bwysig deall y “cyd-destun” wrth gymharu perfformiadau disgyblion yn Lloegr a Chymru, gan fod y ddwy wlad yn wahanol i’w gilydd o ran poblogaeth ac ardaloedd.

Ond un o’r ffactorau pennaf tros y gwahaniaeth ym mherfformiadau’r ddwy wlad yw ariannu, meddai, sy’n “waeth” yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

“Mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn her sylweddol yn y ddwy wlad, ac mae ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn gwneud eu gorau i gau’r bwlch er gwaethaf y ffaith bod lefelau’r ariannu yn hollol annigonol.

“Mae ariannu yng Nghymru yn waeth nag y mae yn Lloegr, ac mae’r angen iddo wella yn fater o frys os yw ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cwricwlwm newydd cyffrous a blaengar yng Nghymru yn dod yn realiti.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae canlyniadau PISA 2015 yn gwbl glir bod cefndir disgybl yng Nghymru yn cael llai o effaith ar ei berfformiad nag ar fyfyrwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd.

“Wrth gwrs rydym wedi ymrwymo i godi safonau a dyheadau ar gyfer pob person ifanc. Dyna pam rydym yn darparu’r rhaglen ddiwygio addysg fwyaf unrhywle yn y DU.

“Ers 2016, rydym wedi cynyddu’r buddsoddiad ar gyfer ein disgyblion tlotaf, wedi diwygio’r hyfforddiant i athrawon, ac wedi cyflwyno’r rhaglen gyntaf erioed i gefnogi ein dysgwyr mwy galluog. Mae hyn yn ychwanegol at ein prif ddiwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu.”